Sefydliad yw Instytut Adama Mickiewicza, ('Sefydliad Adam Mickiewicz') a ariennir gan Weinyddiaeth Diwylliant a Threftadaeth Genedlaethol Gwlad Pwyl, ac sydd â'i bencadlys yn ulica Mokotowska 25 (Palas Siwgr) yn Warsaw.
Fe'i hadnebir yn flaenorol fel Centrum Międzynarodowej Współpracy Kulturalnej Instytut Adama Mickiewicza ('Canolfan Cydweithrediad Diwylliannol Rhyngwladol Sefydliad Adam Mickiewicz')
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1 Mawrth 2000 |
Pencadlys | Warsaw |
Rhanbarth | Warsaw |
Gwefan | http://www.iam.pl/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Wedi'i enwi ar ôl y bardd cenedlaethol Pwylaidd, Adam Mickiewicz (1798–1855), ei nod yw hyrwyddo'r iaith Bwyleg a diwylliant Pwylaidd dramor. Mae'r sefydliad yn cynnal gwefan o'r enw "culture.pl", a sefydlwyd ar 1 Mawrth 2000, sydd bellach yn bedair-ieithog (Pwyleg, Saesneg, Rwseg ac Wcreineg).
Yn ogystal â nifer fawr o feirdd, traethodyddion, llenorion, cyfieithwyr, arlunwyr cysylltiedig; beirniaid llenyddol, cerdd, a ffilm; a churaduron, mae'r Sefydliad yn cynnwys Barbara Schabowska, y Cyfarwyddwr (y cyntaf oedd Krzysztof Olendzki a Paweł Potoroczyn), yn ogystal â thri dirprwy gyfarwyddwr a nifer o reolwyr prosiectau a rhaglenni allweddol.
Yn ogystal â Sefydliad Adam Mickiewicz a noddir gan y Weinyddiaeth Ddiwylliant, mae Sefydliadau Diwylliannol Pwylaidd, a noddir gan Weinyddiaeth Materion Tramor Gwlad Pwyl, mewn dros 22 o ddinasoedd tramor mawr, gan gynnwys Berlin, Bratislava, Budapest, Bucharest, Düsseldorf, Kyiv, Leipzig, Llundain, Minsg, Mosgo, Dinas Efrog Newydd, Paris, Prâg, Rhufain, St Petersburg, Sofia, Stockholm, Tel Aviv, Fienna, a Vilnius.
Tra bod Sefydliad Adam Mickiewicz yn cydweithio'n aml â'r Sefydliadau Diwylliannol Pwylaidd, mae pob sefydliad yn annibynnol ar ei gilydd ac yn cael ei noddi gan weinidogaeth lywodraethol Bwylaidd wahanol.
Mae'r Sefydliad wedi cynllunio dros 400 o fentrau diwylliannol fel rhan o'r Rhaglen Lywodraethol Amlflwydd "Niepodległa". Mae'r Sefydliad yn rhoi gwybod am ei weithgareddau ar broffiliau ar Youtube, cyfryngau cymdeithasol (gan gynnwys Facebook a Twitter).
Mae Instytut Adama Mickiewicza yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Instytut Adama Mickiewicza, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.