Aderyn dihediad, buandroed a mwyaf y byd yw'r estrys (Struthio camelus), sy'n perthyn i urdd o adar a elwir yn Struthioniformes.
Estrys Amrediad amseryddol: Pleistosen–presennol | |
---|---|
Ceiliog (chwith) a iâr (de), Penrhyn Gobaith Da, De Affrica. | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Struthioniformes |
Teulu: | Struthionidae |
Genws: | Struthio |
Rhywogaeth: | S. camelus |
Enw deuenwol | |
Struthio camelus Linnaeus, 1758 | |
Dosbarthiad yr is-rywogaethau |
Mae'r oedolyn yn 2.5 medr o daldra ac mae'n pwyso 115 cilogram. Mae ganddo wddf noeth hir a choesau hir ac mae gan ei draed ddau fys. Mae'n methu hedfan ond mae'n gallu rhedeg yn gyflym iawn. Mae'r gwryw'n ddu gydag esgyll gwyn a chynffon wen; mae plu'r fenyw'n llwydfrown.
Mae'r estrys yn bwydo ar weiriau, hadau, ffrwythau a dail. Fe'i ceir mewn safana a lled-anialwch yn Affrica. Ystyrir yr is-rywogaeth S. c. molybdophanes (estrys Somalia) o Gorn Affrica yn rhywogaeth wahanol gan rai dacsonomyddion.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Estrys, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.