Enrico Caruso (25 Chwefror 1873 – 2 Awst 1921) oedd un o'r tenoriaid mwyaf llwyddiannus yn hanes yr opera.
Cafodd ei eni yn yr Eidal. Mae ei boblogrwydd wedi tyfu wrth i dechnoleg yr oes dyfu - sef y gallu i recordio a masnachu copiau o'i lais; roedd ganddo lais anghyffredin iawn, wyneb ifanc ond llais aeddfed. Gellir dadlau fod ei ddull ef o ganu wedi dylanwadu'n gryf ar bob tenor a'i ddilynodd.
Enrico Caruso | |
---|---|
Ffugenw | Karuzo, Enriko |
Ganwyd | Enrico Caruso 24 Chwefror 1873, 25 Chwefror 1873 Province of Naples, Napoli |
Bu farw | 2 Awst 1921 Napoli |
Label recordio | Victor Talking Machine Company |
Dinasyddiaeth | Teyrnas yr Eidal |
Galwedigaeth | canwr opera |
Arddull | opera |
Math o lais | tenor |
Tad | Marcellino Caruso |
Mam | Anna Baldini |
Priod | Dorothy Caruso |
Plant | Gloria Grazianna Victoria America Caruso, Enrico Caruso Jr. |
Gwobr/au | Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Yn ystod ei yrfa o 18 mlynedd (rhwng 1902 a 1920) fel canwr opera, recordiodd Enrico Caruso dros 260 o ddarnau a gwnaeth miliynau o ddoleri am ei drafferth. Disgiau 78 rpm oedd technoleg ddiweddara'r dydd. Drwy wrando'n astud ar esiamplau o'r recordiadau hyn, gellir clywed fel y datblygodd ei lais dros y blynyddoedd.
Canodd Caruso ar lwyfannau tai opera mwya'r byd, gan gynnwys La Scala yn Milan, y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden yn Llundain a Teatro Colón yn Buenos Aires. Bu'n brif denor yn y Metropolitan Opera yn Efrog Newydd am 17 o flynyddoedd. Roedd Arturo Toscanini, sef arweinydd yn y Met, yn cyfri Caruso fel y canwr gorau iddo gydweithio gydag ef erioed. Roedd techneg llais a'i steil yn urddasol - a hynny gyda theimlad angerddol ar adegau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Enrico Caruso, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.