Cwmni cyhoeddus Americanaidd sy'n darparu gwasanaethau rhyngrwyd yw Google Inc.
Ei beiriant chwilio yw'r mwyaf o ran maint a phoblogrwydd ar y we, a cheir fersiynau ar gyfer y rhan fwyaf o wledydd y byd, mewn dros gant o ieithoedd. Mae'n defnyddio amryw o ffactorau er mwyn asesu pwysigrwydd gwefan.
Math | busnes |
---|---|
Math o fusnes | cwmni cyfyngedig (UDA) |
Diwydiant | y diwydiant meddalwedd, Technoleg gwybodaeth, Rhyngrwyd, Porwr gwe |
Sefydlwyd | 4 Medi 1998 |
Sefydlydd | Sergey Brin, Larry Page |
Pencadlys | |
Pobl allweddol | Larry Page (Prif Weithredwr) |
Cynnyrch | Google Pay |
Perchnogion | Larry Page (0.00274), Sergey Brin (0.00269), Eric Schmidt (0.00055) |
Nifer a gyflogir | 139,995 (31 Mawrth 2021) |
Is gwmni/au | Boston Dynamics |
Lle ffurfio | Menlo Park, California |
Gwefan | https://about.google/, https://www.google.com/, https://blog.google/ |
Mae'r enw "Google" yn chwarae ar y gair "googol", sef 10100 (1 wedi'i ddilyn gan gant o seroau). Mae Google wedi dod yn enwog am ei ddiwylliant corfforaethol a'i gynnyrch newydd a datblygedig, ac wedi cael effaith enfawr ar ddiwylliant ar-lein. Mae'r ferf Saesneg "google" wedi dod i olygu "i chwilio'r we am wybodaeth", ac mae "googlo" neu "gwglo" wedi ymddangos ar rai gwefannau Cymraeg fel cyfieithiad e.e. "Wyt ti wedi gwglo'r gair 'roced'?".
Lawsnsiwyd Google yn Awst 1996 fel 'BackRub' gan Larry Page a Sergey Brin tra oeddent yn fyfyrwyr yn Stanford, UDA. Dechreuodd BackRub ar weinydd (server) preifat Page i ddechrau.
Yn 1998 symudodd y cwmni i garej Susan Wojkicki a chael ei hail-enwi'n Google fel cwmni corfforedig. Dechreuodd y cwmni gyda buddsoddiad o $100,000 gan gyd-sylfaenydd Sun Microsystems, Andy Bechtolsheim.
Un o fentrau diweddaraf Google yw buddsoddiad sylweddol, gyda In-Q-Tel (arf buddsoddi'r CIA) ac Amazon, yn y cwmni newydd Recorded Future, prosiect hel gwybodaeth arlein yn fyw trwy chwilio'n drwyadl degau o filoedd o wefannau, blogiau a chyfrifon Twitter gan gysylltu'r wybodaeth ar unwaith i greu darlun o bwy sy'n gwneud be a phwy sy'n cysylltu gyda phwy ar y rhyngrwyd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Google, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.