Ymddygiad sydd yn anystyriol tuag at eraill, boed yn fwriadol neu drwy esgeulustod, yw ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Gall niweidio cymdeithas. Y gwrthwyneb i hyn yw ymddygiad cymdeithasol, sef ymddygiad sydd yn elwa neu'n gwella cymdeithas. Mewn amryw o wledydd, defnyddir cyfreithiau er mwyn ceisio atal ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ym maes seiciatreg, ystyrir ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus yn rhan o anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol.
Diffinia Deddf Troseddu ac Anhrefn 1998 ymddygiad gwrthgymdeithasol fel ymddwyn mewn ffordd sydd wedi "achosi neu'n debygol o achosi aflonyddwch, ofn neu achosi gofid i un neu fwy nag un person na sydd o'r un cartref" a'r cyflawnwr. Mae nifer o drafodaethau wedi bod ynglŷn â natur annelwig y diffiniad hwn. Cyflwynodd y ddeddf y Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (a elwir yn "ASBO" yn Saesneg, sy'n dalfyriad o "Antisocial Behaviour Order"),gorchymyn sifil sy'n gallu arwain at ddedfryd o hyd at bum mlynedd o garchar os torrir yr amodau. Sancsiynau sifil ydy Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, y medrir eu defnyddio am gyfnod o hyd at ddwy flynedd. Fe'u hystyrir yn weithrediadau troseddol am resymau cyllidol oherwydd y cyfyngiadau a roddant ar ryddid yr unigolyn. Nid yw Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn rhoi cofnod troseddol i'r troseddwr, ond gosodant amodau sy'n atal y troseddwr rhag cyflawni gweithredoedd gwrthgymdeithasol penodol neu eu hatal rhag mynd i fannau penodol. Fodd bynnag, mae torri amodau'r Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn drosedd.
Yn 2003, newidiodd y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y Ddeddf wreiddiol gan gyflwyno mwy o sancsiynau fel y Gorchmynion Hwyrgloch a Gwasgariad i Blant.
Mae'r rhestr isod yn nodi pa fath o ymddygiad mae heddlu yn y DU yn ystyried yn wrthgymdeithasol:
Mewn arolwg a wnaed gan Goleg Prifysgol Llundain ym mis Mai 2006, ystyriai'r bobl a gymrodd ran mai'r DU oedd y wlad waethaf yn Ewrop am ymddygiad gwrthgymdeithasol, gyda 76% yn credu fod gan Brydain "broblem fawr neu ganolig".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ymddygiad gwrthgymdeithasol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.