Mae cyfeiriadedd rhywiol yn cyfeirio at gyfeiriad rhywioldeb unigolyn, fel arfer ar y syniad gall gategoreiddio hyn yn ôl y rhyw neu rywedd y personiaid mae'r unigolyn yn ffeindio'n atyniadol yn rhywiol.
Y categorïau amlaf o gyfeiriadedd rhywiol yw heterorywioldeb (bod yn atyniadol yn rhywiol i aelodau'r rhyw arall), gwrywgydiaeth neu gyfunrywioldeb (bod yn atyniadol yn rhywiol i aelodau'r un ryw) a deurywioldeb (bod yn atyniadol yn rhywiol i aelodau'r ddau ryw).
Mae'r mwyafrif o ddiffiniadau cyfeiriadedd rhywiol yn cynnwys cydran seicolegol (megis cyfeiriad awydd erotig unigolyn) a/neu gydran ymddygiadol (sy'n canolbwyntio ar ryw partner(iaid) rhywiol yr unigolyn). Mae rhai yn ffafrio yn syml i ddilyn hunan-ddiffiniad neu hunaniaeth unigolyn.
Yn ddiweddarach, mae ysgolheigion rhywoleg, anthropoleg a hanes wedi dadlau nad yw categorïau cymdeithasol megis heterorywiol a gwrywgydiol yn hollfydol. Gall wahanol gymdeithasau ystyried agweddau eraill i fod yn bwysicach na rhyw, yn cynnwys oedrannau'r partneriaid, y swyddogaeth rywiol a chwaraerir ganddynt (megis top neu waelod), neu eu gwahanol statws cymdeithasol.
Gall hunaniaeth rywiol gael ei defnyddio'n gyfystyr â chyfeiriadedd rhywiol, ond mae'r ddau yn cael eu gwahaniaethu weithiau, lle bo hunaniaeth yn cyfeirio at gysyniadaeth unigolyn o'i hunan, a chyfeiriadedd yn cyfeirio at "ffantasïau, serchiadau a dyheadau" ac/neu ymddygiad. Hefyd, weithiau defnyddir hunaniaeth rywiol i ddisgrifio canfyddiad person o ryw ei hunan, yn hytrach na chyfeiriadedd rhywiol. Mae gan y termau hoffter rhywiol a ffafriaeth rywiol ystyr tebyg i gyfeiriadedd rhywiol, ond caffent eu defnyddio yn amlaf tu allan i gylchoedd gwyddonol gan bobl sy'n credu taw mater o ddewis, yn gyfan neu mewn rhan, yw cyfeiriadedd rhywiol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cyfeiriadedd rhywiol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.