Mae’r Wicipedia Cymraeg yn cynnwys dros 90,000 o erthyglau Cymraeg a bwriad prosiect Wici-Iechyd yw ychwanegu 3,000 o erthyglau newydd (a gwella eraill) mewn ymgais i gofnodi a chyfoethogi cynnwys yn yr iaith Gymraeg ar bynciau perthnasol i iechyd a gwyddorau bywyd.
Gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru ac mewn cydweithrediad efo Wiki UK, bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn dechrau ar brosiect 9 mis o hyd, i hyfforddi golygyddion i greu a gwella erthyglau Wicipedia am iechyd a materion meddygol.
Y nod yw creu 3,000 o erthyglau newydd mewn cwta naw mis - gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan cynnwys rhaglen estyn allan a chyfres o 'Olygathonau' a fydd yn annog pobl i ysgrifennu cynnwys newydd.
Bydd aelodau o'r cyhoedd a'n sefydliadau'n cael eu hannog i rannu gwybodaeth a allai fod ar gael eisoes, a bydd staff technegol y Llyfrgell Genedlaethol yn treialu awtomeiddio'r broses o greu erthyglau Wicipedia gan ddefnyddio data.
Byddwn hefyd yn cydweithio efo gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd a iaith er mwyn safoni termau meddygol Cymraeg, gan ychwanegu'r termau cymraeg i Wicidata.
Os hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect newydd cyffrous hwn, cysylltwch â ni, neu nodwch eich diddordeb isod.
Dyma restr o dasgau i'w cwblhau.
Mae Wikiproject:Medicine wedi creu rhestr o 800 o erthyglau Saesneg efo cyflwyniad sy'n addas i'w cyfieithu er mwyn cychwyn yr erthyglau mewn gwahanol ieithoedd. Mae modd cychwyn ar y gwaith yma
Mae croeso i unrhyw un nodi syniadau am erthyglau neu ffynonellau ar gyfer cynnwys.
Mae rhai eitemau (mewn coch) ar y Rhestr o organau'r corff dynol sydd angen erthyglau.
Os ydych yn creu erthyglau Cymraeg newydd ar bynciau perthnasol i iechyd neu wyddorau bywyd yn ystod cyfnod y prosiect ychwanegwch y Categori:Prosiect Wici-Iechyd ar waelod yr erthygl a nodwch deitl yr erthygl yma. columns-list
Dyma restr o gyfranwyr ar y prosiect. Mae croeso i chi ychwanegu eich henw at y rhestr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Wicipedia:Wicibrosiect Wici-Iechyd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.