Y Ddanadfrech: Clefyd ar y croen

Mae'r ddanadfrech (Saesneg: Hives neu Urticaria) yn fath o frech croen gyda lympiau coch, esgynedig sy'n cosi. Gallant hefyd losgi. Yn aml mae'r clytiau o'r frech yn symud o gwmpas. Fel arfer maen nhw'n para ychydig ddyddiau ac yn gadael heb adael unrhyw newidiadau tymor hir i'r croen. Mae llai na 5% o achosion yn para mwy na chwe wythnos. Anaml y bydd y cyflwr yn dychwelyd.

Y ddanadfrech
Y Ddanadfrech: Clefyd ar y croen
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathclefyd y croen, skin and integumentary tissue symptom, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r ddanadfrech yn aml yn ymddangos yn dilyn haint neu o ganlyniad i adwaith alergaidd i feddyginiaeth, brathiad pryfyn, neu fwyd, er enghraifft. Gall gael ei achosi hefyd gan straen seicolegol, tywydd oer, neu gryndod. Yn hanner yr achosion, nid yw'r hyn sydd wedi'i achosi yn hysbys. Mae ffactorau risg yn cynnwys dioddef o gyflyrau megis clefyd y gwair neu asthma. Mae diagnosis fel arfer yn seiliedig ar ymddangosiad. Mae Prawf clytiau yn gallu bod yn ddefnyddio i adnabod alergedd.

Arwyddion a symptomau

Y Ddanadfrech: Clefyd ar y croen 
Y ddanadfrech ar y frest. Sylwer eu bod yn esgyn rhywfaint.
Y Ddanadfrech: Clefyd ar y croen 
Darlun o'r ddanadfrech

Mae gwaltesi (ardaloedd esgynedig sydd wedi'u hamgylchynu gan sylfaen goch) y ddanadfrech yn gallu ymddangos yn unrhyw le ar wyneb y croen. Os yw o ganlyniad i alergedd neu beidio, mae rhyddhad cymhleth o gyfryngwyr llidus, gan gynnwys histamin o fastgelloedd  croenol yn achosi hylif i ollwng o waedlestri arwynebol. Gall gwaltesi fod mor fach a phin, neu fodfeddi lawer mewn diamedr.

Mae angioedema yn gyflwr sy'n perthyn (hefyd o achosion alergaidd ac analergaidd), er fod y colli hylif o waedlestri dyfnach o lawer yn yr haenau isgroenol neu isfwcosaidd. Mae danadfrech unigol sy'n boenus, yn para dros 24 awr, neu'n gadael clais wrth iddo wella yn fwy tebygol o fod yn gyflwyr mwy difrifol o'r enw vasculitis urticariaidd. Mae'r ddanadfrech a ddaw i'r amlwg wrth fwytho'r croen (yn aml yn ymddangos yn hirfain) yn cael ei achosi gan gyflwr diniwed o'r enw urticaria dermatograffig.

Cyfeiriadau


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!

Tags:

Brech

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Ymgyrch ymosodol y Taliban (2021)Miami18561943SaesnegRSSChez Le PhotographeDerwydd196916 IonawrMET-ArtIrmgard Giering1970au1992ISBN (identifier)Encyclopædia BritannicaRhyfel AlgeriaCarw cochDe CoreaThe KillersLlenyddiaeth yn 2023Eglwys Iarll Leicester7gBig BoobsJohn Edward Jones (Nevada)Llanddewi Nant Hodni1965Lloyds TSB480Rhestr adar Cymru13 BelovedBlogPerthnasedd arbennigCyfathrach Rywiol FronnolFayettevilleYnysoedd Gogledd Mariana600auIlocanegY TalibanHenry Kissinger1991MetadataThe Gallows6742010auEr cof am KellyIfan Huw DafyddCyfarwyddwr ffilmFfilmGuto FfowcMila KunisNelly FurtadoGwyddoniaethBryn Celli DduGorsaf reilffordd BebingtonElin MeekPrif Weinidog IndiaDafydd OwenAmerican Broadcasting CompanyDinbychCalendr GregoriPersiaCalendr HebreaiddElizabeth Taylor1200Death Wish (ffilm 2018)Sisters of AnarchyLady Gaga🡆 More