Bardd, gweinidog, athro, llyfrgellydd a chyfieithydd oedd y Prifardd Dafydd Owen (12 Mai 1919 – 12 Hydref 2002).
Dafydd Owen | |
---|---|
Dafydd Owen yn darllen o Dimbech' a Cherddi Eraill (1989) | |
Ganwyd | 1919 Bylchau |
Bu farw | 2002 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | Prifardd, llyfrgellydd, gweinidog yr Efengyl |
Ganed Dafydd Owen yn y Rhiw, tua milltir o groesffordd y Bylchau, ym Mro Hiraethog, yn fab i William Owen y saer, Brynrhedyn a Jane Ellen Williams, Bylchau Isaf. Symudodd y teulu, sef y rhieni a'u hwyth blentyn, i Ddinbych (7, Y Lôn Goch), cyn bod Dafydd yn ddwyflwydd oed.
Aeth i Ysgol Sirol Dinbych, lle'r Saesneg oedd y cyfrwng dysgu er bod mwyafrif yr athrawon yn gallu siarad Cymraeg. Yno deffrowyd ei ddiddordeb mewn barddoniaeth. Ni chaniataodd ei dad iddo fynd ymlaen i'r chweched dosbarth, yn groes i ewyllys ei fam a'i brifathro, ac aeth yn glerc/ohebydd i Wasg Gee. Yno, daeth o dan ddylanwad Morris T Williams, Kate Roberts, Bryan Jones a J. J. Evans. Wedyn aeth yn glerc i'r Cyngor Sir yn Rhuthun a bu yno am chwe blynedd. Pan ddaeth yr Ail Ryfel Byd fe gofrestrodd ei hun yn wrthwynebydd cydwybodol er nad oedd rhaid iddo wneud hynny gan na fyddai pasio'r prawf meddygol i fynd i'r lluoedd arfog.
Astudiodd y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor. Cafodd ei hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Diwinyddol Bala-Bangor. Treuliodd gyfnod yn Llyfrgellydd Dinbych cyn cael ei sefydlu'n weinidog gyda'r Annibynwyr. Bu'n gweinidogaethu mewn nifer o eglwysi yn eu tro rhwng 1950 a 1973, gan gynnwys Bryn Seion (Sychdyn) a Bethel (yr Wyddgrug), Bwlchtocyn ac Aber-soch, Llŷn, a Gibea (Brynaman). Aeth i ddysgu yn ysgolion Prestatyn a Glan Clwyd yn Sir Ddinbych, cyn iddo gael ei benodi'n gyfieithydd gyda Chyngor Sir Clwyd. Ymddeolodd yn 1984. Pan ofynnwyd iddo gan gyfaill o Sais pam iddo gefnu ar y weinidogaeth, ei ateb ffraeth oedd: ' I was called to a higher salary'.
Priododd Doris Hughes ar 26 Rhagfyr 1958. Cawson nhw ddau o blant: William Gareth (28 Hydref 1959 -) a Siân (12 Mawrth 1962 - ).
Bu Dafydd Owen yn llenor toreithiog. Yn 1939, ac yntau'n ugain oed, fe enillodd gystadleuaeth Stori Fer y Faner. Yn 1943 enillodd Goron Eisteddfod Colegau Cymru a'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1943 am ei bryddest, "Rhosydd Moab". Enillodd Goron Arian y Prifeirdd yn Eisteddfod Caerwys 1968 ar y testun 'Y Daith'. Dim ond enillwyr y Goron neu'r Gadair yn y Brifwyl oedd yn cael cystadlu yn y gystadleuaeth honno. Yna, enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Benfro 1972 yn Hwlffordd am ei awdl, "Preselau". Bu'n brysur fel beirniad, darlithydd a darlledwr a bu'n golygu colofn farddol Y Tyst am flynyddoedd. Ystyrid ef yn awdurdod ar Elfed ac enillodd radd MA gan Brifysgol Lerpwl am ei draethawd 'Bywyd a Gwaith Elfed'. Cyhoeddodd lyfrau ar Elfed, Cynan a Waldo Williams, ynghyd â'r gyfrol I Fyd y Faled (1986). Cyhoeddodd O dŷ i Dŷ, cyfrol o'i emynau ef, ei chwaer Janet Mary Hughes Prestatyn, a'i frawd y Parchedig William Thomas Owen (cyn-weinidog eglwys Annibynnol y Tabernacl, King's Cross, Llundain), yn 1985. Cyhoeddodd ei hunangofiant, Yn Palu Wrtho'i Hunan yn 1993. Coffawyd ef yn Rhaglen Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2003.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dafydd Owen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.