Argraffdy a thŷ chyhoeddi Cymraeg yn Lôn Swan, Dinbych, oedd Gwasg Gee.
Am ran haelaeth dwy ganrif bu'n un o brif weisg Cymru.
Math | cyhoeddwr, gwasg |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | y fasnach lyfrau yng Nghymru |
Gwlad | Cymru |
Perchnogaeth | T. Gee a'i Fab, Thomas Gee |
Yn 1808 roedd y Parch. Thomas Jones, a gofir fel awdur Hanes y Merthyron, wedi sefydlu gwasg yn 23 Stryd y Ffynnon, Rhuthun. Daeth Thomas Gee Hynaf i weithio iddo o Lundain. Yn Ebrill 1809, symudodd Thomas Jones a Gee Hynaf y wasg i dref Dinbych. Yn 1813, ar ôl iddo gyhoeddi ei Hanes y Merthyron, gwerthodd Thomas Jones y wasg i Thomas Gee Hynaf.
Cymerwyd y wasg drosodd gan ei fab, Thomas Gee yn ddiweddarach. Daethont yn adnabyddus am eu cyhoeddiadau Cymreig megis Y Faner a'r Gwyddoniadur Cymreig.
Ymunodd y bardd T. Gwynn Jones â'r wasg yn 1891, fel newyddiadurwr gyda'r Faner, cyn gadael i weithio ar Y Cymro - ond dychwelodd fel Is-olygydd Y Faner yn 1895.
Yn 1914 gadawodd y wasg ddwylo'r teulu. Roedd yr awdures Kate Roberts a'i gŵr, Morris T. Williams, yn berchen ar y wasg yn ystod yr 1930au. Caewyd y wasg yn 2001. Roedd bwriad troi'r adeilad yn Ninbych yn amgueddfa ond ni lwyddwyd i ddenu nawdd, ac felly mae cais wedi cael ei wneud i droi'r adeilad yn fflatiau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwasg Gee, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.