Term llenyddol a arferir yn y Gymraeg i ddisgrifio math o gerdd hir ar y mesurau rhydd yw pryddest.
Er bod yr enghraifft gynharaf o'r gair i'w chael yng ngwaith Beirdd y Tywysogion (gyda'r ystyr 'cerdd, cân', bôn y ferf prydaf), mae'n ffurf farddonol a gysylltir â'r Eisteddfod yn bennaf ac yn enwedig â chystadleuaeth Coron yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n cyfateb i'r awdl ar y mesurau caeth.
Gellir llunio pryddest ar un neu ragor o'r mesurau rhydd a does dim rheolau pendant ynglŷn a'i hyd na'i ffurf. Does dim rhaid defnyddio cynghanedd, ond ceir pryddestau sy'n cynnwys cynghanedd er hynny. Mae'r rheolau llac hyn yn golygu fod gan fardd sy'n llunio pryddest lawer mwy o ryddid na'i gymheiriad ar y mesurau caeth sy'n cystadlu am y Gadair.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pryddest, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.