Un o'r rhywogaethau ceirw mwyaf yw'r carw coch (Cervus elaphus).
Carw coch | |
---|---|
Carw coch (gwrywaidd) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Artiodactyla |
Teulu: | Cervidae |
Is-deulu: | Cervidae |
Genws: | Cervus |
Rhywogaeth: | C. elaphus |
Enw deuenwol | |
Cervus elaphus Linnaeus, 1758 | |
Dosbarthiad daearyddol ail-greu diweddar |
Mae i'w gael ledled Ewrop, cyn belled â rhanbarth Mynyddoedd y Cawcasws, Asia Leiaf, Iran, a rhannau o orllewin Asia. Mae hefyd i'w gael ym Mynyddoedd yr Atlas yng Ngogledd Affrica: dyma'r unig rywogaeth o geirw sy'n frodorol yn Affrica. Mae ceirw coch wedi’u cyflwyno i rannau eraill o’r byd, gan gynnwys Awstralia, Seland Newydd, yr Unol Daleithiau, Canada, Periw, Wrwgwái, Tsile a’r Ariannin. Ym Mhrydain ceir y rhan fwyaf o geirw coch ar rostiroedd agored Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban, er bod poblogaethau gwasgaredig i'w cael mewn mannau eraill yng Nghymru, Lloegr, ac Iwerddon.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Carw coch, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.