Niwrodrosglwyddydd, hormon a meddyginiaeth yw adrenalin a adnabyddir hefyd dan yr enw epineffrin.
Fel arfer. mae'n cael ei gynhyrchu gan y chwarennau adrenal a mathau arbennig o niwronau. Mae'n allweddol ym mhenderfyniad person sydd dan fygythiad pa un ai ffoi neu wrthsefyll yr ymosodiad, neu'r broblem drwy gynyddu llif y gwaed i'r cyhyrau, y llif o'r galon, chwyddo cannwyll y llygaid a chynyddu faint o siwgwr sydd yn y gwaed. Gwna hyn drwy rwymo'i hun i'r derbynyddion alffa a beta.
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | (±)-adrenaline |
Màs | 183.089543276 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₉h₁₃no₃ |
Enw WHO | Epinephrine |
Clefydau i'w trin | Glawcoma golwg eang, ataliad y galon, rhwystr yn y llwybr anadlu, isbwysedd, bradycardia, sioc septig, anaffylacsis, ffibriliad fentriglaidd, alergedd bwyd |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd unol daleithiau america c |
Yn cynnwys | nitrogen, carbon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | (±)-adrenaline |
Màs | 183.089543276 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₉h₁₃no₃ |
Enw WHO | Epinephrine |
Clefydau i'w trin | Glawcoma golwg eang, ataliad y galon, rhwystr yn y llwybr anadlu, isbwysedd, bradycardia, sioc septig, anaffylacsis, ffibriliad fentriglaidd, alergedd bwyd |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd unol daleithiau america c |
Yn cynnwys | nitrogen, carbon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fe'i ceir yn y rhan fwyaf o anifeiliaid a rhai organebau ungellog (protosoa). Napoleon Cybulski oedd y cyntaf i ddarganfod adrenalin, a hynny yn 1895.
Mae'r gair Lladin adrenalin yn golygu 'tua'r arennau', lle lleolir y chwarren adrenal. Mae'n derm masnachol a rhoddwyd masnach fraint (neu trademark) ar yr enw yn dilyn bathu'r term gan Jokichi Takamine yn 1901; cofrestrwyd y fasnach fraint gan Parke, Davis & Co yn Unol Daleithiau America. Oherwydd hyn, mae'r term 'adrenalin' yn araf golli ei blwyf a'r defnydd o'r term anfasnachol Epinephrine yn cynyddu.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Adrenalin, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.