Mae sgan uwchsain (sonograff) yn broses sy'n defnyddio seindonnau ac nid ymbelydredd i gynhyrchu delwedd o organ yn y corff.
Caiff ei ystyried yn hollol ddiogel. Mae'r seindonnau ar amledd uchel iawn (10 MHz) nad ydynt yn ganfyddadwy i fodau dynol. Gall seindonnau basio drwy hylif a meinwe meddal ond nid gwrthrychau solet fel bustl, falf calon neu ffoetws. Pan fydd yr uwchsain yn taro yn erbyn gwrthrych solet mae'n adlamu ac yn gwneud atsain. Mae'r atseiniau ar wahanol gryfderau yn dibynnu ar ddwysedd y gwrthrych. Mae cyfrifiadur yn cyfieithu'r atseiniau hyn yn ddelwedd.
Math | ton acwstig, medical service, visualization |
---|---|
Y gwrthwyneb | infrasound |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnyddir sgan uwchsain (sonograff) i greu delwedd o'r baban heb ei eni ar sgrin. Defnyddir sgan dyddio rhwng 8 ac 14 wythnos o feichiogrwydd i bennu oedran y baban, i wirio bod y baban yn datblygu'n dda ac i weld a yw'r fam yn disgwyl efeilliaid. Defnyddir sgan achos anrheolaidd rhwng 18 – 20 wythnos i wirio bod y baban yn iawn. Mae'n edrych ar yr aelodau, wyneb, pen, strwythur yr ymennydd a'r prif organau (calon, ysgyfaint, pledren, arennau a'r coluddyn).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sgan uwchsain, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.