Clwy'r Ceudod

Mae Clwy'r ceudod neu glefyd coeliac, sydd weithiau'n cael ei sillafu fel clefyd celiac, yn salwch hunanimíwn o darddiad genetig sy'n effeithio yn bennaf ar y coluddyn bach. Mae'r symptomau yn cynnwys problemau gastrogoluddol megis dolur rhydd parhaus, chwyddo abdomenol, diffyg traul, colli awydd am fwyd, ac ymhlith plant fethiant i dyfu yn normal. Mae hyn yn aml yn dechrau pan fo'r dioddefwr rhwng chwe mis a dwy oed. Mae symptomau nad ydynt yn nodweddiadol yn fwy cyffredin, yn arbennig ymhlith pobl sydd dros ddwy oed. Gall fod symptomau gastrogoluddol ysgafn neu absennol, nifer eang o symptomau yn effeithio ar unrhyw ran o'r cordd, neu ddim symptomau amlwg o gwbl. Cafodd clwy'r ceudod ei ddisgrifio gyntaf mewn plant; fodd bynnag, gall ddatblygu unrhyw bryd ym mywyd y dioddefwr. Mae'n cael ei gysylltu a chlefydau hunanimíwn eraill, megis diabetes mellitus teip 1, a thyroiditis, ymhlith eraill.

Clwy'r ceudod
Clwy'r Ceudod
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathclefyd hunanimíwn y system gastroberfeddol, anhwylder sy'n berthnasol i glwten, clefyd Edit this on Wikidata
SymptomauDolur rhydd, rhwymedd, chwydu, cyfog edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae clwy'r ceudod yn cael ei achosi gan adwaith i glwten, sef protinau amrywiol sydd i'w cael mewn gwenith a grawn eraill, megis barlys a rhyg. Mae swmpiau cymhedrol o geirch, sydd heb eu difwyno gan grawn sy'n cynnwys glwten, fel arfer yn gallu ei oddef. Gall y problemau gael eu hachosi gan fathau penodol o geirch. Wrth ddod i gysylltiad a glwten, gall ymateb imiwn annormal arwain at cynhyrchu gwahanol hunanwrthgyrff sy'n gallu effeithio ar nifer o organau. Mae hyn yn achos adwaith ennynol yn y coluddyn bach all fyrhau'r leinin fili (crebachiad filaidd) yn y coluddyn bach. Mae hyn yn effeithio ar amsugno maetholion, gan arwain yn aml at anemia.

Mae diagnosis fel arfer yn cael ei wneud trwy gyfuniad o brofion gwrthgyrff gwaed a biopsïau coluddol, gyda chymorth profion genetig. Nid yw cadarnhau'r diagnosis yn rhwydd. Yn aml, mae'r gwrthgyrff yn y gwaed yn negyddol ac mae nifer o bobl ond yn dangos newidiadau coluddol bychain gyda fili arferol. Gall pobl ddangos symptomau eithafol a chael eu archwilio am flynyddoedd cyn y cyflawnir y diagnosis. Yn fwyfwy, mae'r diagnosis yn cael ei wneud ar bobl nad ydynt yn dangos symptomau o ganlyniad i sgrînio. Nid yw'r dystiolaeth ynghylch effeithiau sgrînio, fodd bynnag, yn ddigonol i benderfynu a yw'n ddefnyddiol ai peidio. Tra bod y clefyd yn cael ei achosi tan anoddefgarwch parhaol i brotinau gwenith, nid yw'n ffurf o alergedd gwenith.

Yr unig driniaeth effeithiol sy'n hysbys yw'r deiet di-glwten llym gydol oes, sy'n arwain at adfer y mucosa coluddol, yn gwella symptomau ac yn lleihau'r risg o ddatblygu cymhlethdodau yn achos y rhan fwyaf o bobl. Os nad yw'n cael ei drin, gall arwain at ganserau, megis lymffoma coluddol a chynnydd bychan yn y risg o farwolaeth gynnar. Mae cyfraddau yn amrywio rhwng gwahanol ranbarthau'r byd, o cyn lleied a 1 mewn 300 i gynifer a 1 mewn 40, gyda'r cyfartaledd rhwng 1 mewn 100 ac 1 mewn 170 o bobl. Mewn gwledydd datblygedig, amcangyfrifir bod 80% o achosion heb gael eu hadnabod, fel arfer am nad oes cwynion gastrogolyddol ac oherwydd ymwybyddiaeth isel o'r cyflwr. Mae'r clefyd ychydig yn fwy cyffredin ymhlith menywod na dynion. Mae'r term "coeliac" yn tarddu o'r Groeg κοιλιακός (koiliakós, "abdomenol") a chafodd ei gyflwyno yn y 19eg ganrif mewn cyfieithiad o'r hyn a ystyrir yn gyffredinol fel disgrifiad o'r hen Roeg o glefyd Aretaeus o Cappadocia.

Cyfeiriadau

Rhybudd Cyngor Meddygol


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!

Tags:

Clefyd y siwgrColuddyn bachDolur rhydd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

1642WisconsinStarke County, IndianaUrdd y BaddonLiberty HeightsAwdurdodPrifysgol TartuElsie DriggsPike County, OhioWilliam BaffinNevadaKearney County, NebraskaFlavoparmelia caperataHappiness RunsEsblygiadMuhammadRichard FitzAlan, 11eg Iarll ArundelMachu PicchuLincoln County, NebraskaCyfansoddair cywasgedigLonoke County, ArkansasWoolworthsAshland County, OhioMahoning County, OhioPhillips County, ArkansasHindŵaethArchimedesAneirinJames CaanButler County, OhioDie zwei Leben des Daniel ShoreDawes County, NebraskaWolcott, VermontEtta JamesClorothiasid SodiwmHTMLGwobr ErasmusMaria Helena Vieira da SilvaKhyber PakhtunkhwaSant-AlvanPen-y-bont ar Ogwr (sir)Joseff Stalin28 MawrthJacob Astley, Barwn Astley o Reading 1afPennsylvaniaToni MorrisonBranchburg, New Jersey1572Hempstead County, ArkansasAbdomenLynn BowlesCanolrifSearcy County, ArkansasThe Beatles1605CyfunrywioldebCyflafan y blawdUndduwiaethArthur County, NebraskaRhyfel yr Undeb Sofietaidd yn AffganistanJean JaurèsBIBSYS1962Kimball County, NebraskaJohnson County, NebraskaGemau Olympaidd yr Haf 2004Y rhyngrwydWarren County, OhioMorocoSex & Drugs & Rock & RollLlundainLlynInstagram🡆 More