Argaill

Mae'r argaill (neu'r 'epididymis') yn rhan o'r system atgenhedlu wrywaidd.

Mae'n diwb sy'n cysylltu'r ceilliau i'r fas defferens. Mae'n bresennol ym mhob ymlusgiad, aderyn a mamal gwrywaidd. Mae'n diwb sengl, cul, wedi ei dorchi'n dyn sy'n cysylltu'r dwythellau echddygol o gefn y caill i'w fas defferens. Mewn oedolion dynol mae rhwng chwech a saith metr o hyd.

Argaill
Enghraifft o'r canlynolOrganau rhyw, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathduct, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Label brodorolEpididymis Edit this on Wikidata
Enw brodorolEpididymis Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Argaill
1 argaill
2 pen yr argaill
3 llabedennau'r argaill
4 corff yr argaill
5 cynffon yr argaill
6 dwythell yr argaill
7 fas defferens

Rhannau

Mae gan yr argaill tair rhan:

Y pen (Caput)

Y corff (Corpus)

Y gynffon (Cauda)

Swyddogaeth

Mae sberm, sy'n cael ei gynhyrchu yn y ceilliau, yn mynd i mewn i ben (caput) yr argaill, drwy'r corff (corpus) i'r gynffon (cauda), lle maent yn cael eu storio. Pan fydd sberm yn cael ei gynhyrchu gyntaf ac yn teithio i'r pen, nid ydynt eto yn barod i gael eu halldaflu. Ni allant nofio na ffrwythloni wy. Erbyn iddynt gyrraedd y gynffon bydd y sberm wedi datblygu digon i'w galluogi i ffrwythloni wy. Mae'r sberm yn cael ei drosglwyddo i'r blychau semenol trwy'r fas defferens. Ni all y sberm nofio eto, felly mae cyfangiadau cyhyrau yn gwthio'r sberm i'r fesigl semenol lle mae'r datblygiad terfynol yn digwydd.

Pan fydd sberm yn cael eu halldaflu, maent yn symud trwy gynffon yr epididymis. Mae cymaint o sberm yn ceisio symud trwy le cyfyng fel na allant nofio, felly maent yn cael eu symud trwy beristalsis (gwasgu ac ymlacio anwirfoddol tiwbiau, sy'n gwthio eu cynnwys ymlaen) o'r cyhyrau yn y fas defferens.

Arwyddocâd clinigol

Llid

Gelwir llid ar yr argaill yn epididymitis. Mae'n llawer mwy cyffredin na llid y ceilliau, a elwir yn orchitis.

Gwaredu llawfeddygol

Epididymotomy yw gosod toriad i mewn i'r argaill sy'n cael ei ddefnyddio weithiau fel triniaeth ar gyfer epididymitis crawnllyd acíwt. Epididymectomy yw cael gwared â'r argaill yn llwyr trwy ymyrraeth lawfeddygol, sy'n cael ei ddefnyddio weithiau fel triniaeth ar gyfer syndrom poen ar ôl fasectomi ac ar gyfer achosion o epididymitis sydd ddim yn ymateb i driniaeth amgen.

Cyfeiriadau

Tags:

Argaill RhannauArgaill SwyddogaethArgaill Arwyddocâd clinigolArgaill CyfeiriadauArgaillAderynCeilliauMamalVas deferensYmlusgiad

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Yasuhiko OkuderaWhatsAppAddysg uwchraddedigBeti-Wyn JamesLe Bal Des Casse-PiedsCodiadAdnabyddwr gwrthrychau digidol2003AberteifiNatsïaethY Deyrnas UnedigHenry KissingerCowboys Don't CryKolkataYsgol Gyfun Maes-yr-YrfaOdlFfotograffiaeth erotigCalan MaiLaboratory ConditionsRabiRobert Louis StevensonCristiano RonaldoBetty CampbellDaearyddiaeth EwropY BeirniadJoaquín Antonio Balaguer RicardoMauritiusXXXY (ffilm)Pont HafrenRhyw geneuolBeichiogrwyddDerryrealt/Doire ar AltVishwa MohiniLlên RwsiaParalelogramRostockInternet Movie DatabaseFformiwla UnAfon GwendraethPlanhigyn blodeuolFfuglen llawn cyffroInstagramApple Inc.GwyddbwyllHunan leddfuSaesnegLlanfrothenWas Machen Frauen Morgens Um Halb Vier?Robat PowellY DdaearDatganoli CymruGlasTantraTyrcegMetrUn Soir, Un TrainDubaiLabor DayHeddychiaeth yng NghymruThe Salton SeaHosni MubarakChildren of DestinyBwgan brainFfilm droseddCaitlin MacNamaraGwyddelegJyllandGwyddoniadurSeidrMicrosoftYr Ymerodraeth RufeinigDre-fach FelindreO Homem Nu🡆 More