Mae homeopathi yn feddyginiaeth gydrannol neu amgen (CAM).
Dyfeisiwyd homeopathi yn y 1790au gan feddyg o'r Almaen o'r enw Samuel Hahnemann.
Samuel Hahnemann dyfeisydd homeopathi | |
Enghraifft o'r canlynol | triniaeth meddygaeth amgen, branch of pseudoscience, parascience |
---|---|
Math | Meddyginiaeth amgen |
Sylfaenydd | Samuel Hahnemann |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae triniaeth homeopathi yn seiliedig ar y cysyniad bod tebyg yn gwella tebyg. Mae'n defnyddio'r egwyddor y gall y corff oresgyn salwch os rhoddir dosau gwan o sylwedd i glaf a fyddai, ar gryfder llawn yn cynhyrchu symptomau'r salwch. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod meddyginiaethau homeopathi yn cael eu creu trwy wanhau cynhyrchion planhigion ac echdyniadau anifeiliaid fel bod lefel terfynol y cyffuriau gweithredol yn eithriadol o isel. Fel arfer bydd y dos yn llawer is na'r lefel y byddai fferyllydd yn derbyn bod ei hangen iddi werth biolegol ar glaf.
Gellir rhagnodi meddyginiaethau homeopathi ar y GIG, ond dim ond ychydig o ysbytai a meddygfeydd sydd yn gwneud a hynny fel darpariaeth dewis i gleifion yn unig. Nid yw'r GIG yn ardystio i effeithiolrwydd y meddyginiaethau trwy eu rhagnodi. Fel arfer mae homeopathi yn cael ei ymarfer yn breifat ac mae meddyginiaethau homeopathi ar gael o fferyllfeydd. Gall y pris ar gyfer ymgynghoriad cychwynnol gyda homeopath yn amrywio o tua £20 i £80. Mae tabledi homeopathig neu gynhyrchion eraill fel arfer yn costio tua £ 4 i £ 10.
Y safon aur ar gyfer profi effeithiolrwydd clinigol unrhyw gyffur yw prawf plasebo ar hap wedi ei reoli. Wedi eu profi fel hyn nid yw meddyginiaethau homeopathi erioed wedi dangos budd gwell na'r plasebo. Yr unig fantais i homeopathi yw bod lefel isel o gyffuriau presennol yn sicrhau bod y meddyginiaethau yn hynod ddiogel. Y gwir berygl mewn homeopathi yw bydd claf yn ei ddefnyddio heb effaith clinigol yn hytrach na defnyddio triniaeth go iawn, a thrwy hynny yn ei osod mewn perygl. Mewn adroddiad am homeopathi gan Bwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ'r Cyffredin yn 2010 dywedwyd nad yw meddyginiaethau homeopathig yn perfformio'n well na phlasebo, a bod yr egwyddorion y mae homeopathi wedi'u seilio arnynt yn "anhygoel o anwyddonol"
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Homeopathi, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.