Tinitws

Mae tinitws yn symptom meddygol lle mae unigolyn yn clywed seiniau sy'n deillio o fewn y corff, yn hytrach nag o ffynhonnell allanol.

Nid cyflwr iechyd mohono ond symptom o gyflyrau eraill gan gynnwys trymder clyw, trawma i'r pen, haint yn y glust a gormodedd o wêr yn y glust.

Tinitws
Tinitws
Enghraifft o'r canlynolproblem iechyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathnam ar y clyw, symptom y glust Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolOtorhinolaryngoleg edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Enwau Cymraeg

Mae ymadroddion Cymraeg eraill am tinitws yn cynnwys:

  • Y glust soniarus
  • Y gloch fach
  • Merwino yn y glust
  • Tingo'r glust
  • Canu yn y glust
Tinitws 
Y gloch fach (hen enw Cymraeg am dinitws)

Symptomau cyffredin

Er bod tinitws yn cael ei alw'n Gymraeg a'i disgrifio mewn ieithoedd eraill yn canu yn y glust gall y sawl sy'n byw efo'r cyflwr clywed sawl sŵn, gan gynnwys sïo, grwnian, hymian, mwmian, crensian, llifanu, sisiad, hisian, chwythu a chwibanu. Bydd rhai pobl yn clywed seiniau sy'n debyg i gerddoriaeth neu ganu, ac mae eraill yn clywed synau sy'n curo mewn amser gyda'u pwls (tinitws trawiadol); bydd eraill yn clywed lleisiau aneglur. Gallai'r sŵn bod yn feddal neu'n uchel, a gall y sain bod yn uchel neu'n isel. Bydd rhai pobl yn clywed y sŵn mewn un glust yn unig, bydd eraill yn ei glywed yn y naill glust a'r llall ar wahanol adegau ac eraill eto yn ei glywed yn y ddwy glust ar yr un pryd.

Yn anaml bydd tinitws yn symptom o gyflwr gwael difrifol. Yn y rhan fwyaf o bobl mae'n symptom sy'n para am ddim ond ychydig o amser ar y tro ac sy'n dŵad a mynd. Ond mewn rhai cleifion gall bod yn barhaus gan gael effaith andwyol ar sylwedd bywyd pobl. Gall achosion difrifol fod yn ofidus iawn, gan effeithio ar y gallu i ganolbwyntio, ac yn achosi problemau megis anhunedd ac iselder ysbryd.

Be sy'n achosi tinitws?

Nid yw'n gwbl eglur yn union beth sy'n achosi tinitws, ond credir ei fod yn broblem gyda sut mae'r glust yn clywed sain a sut mae'r ymennydd yn ei dehongli.

Mae llawer o achosion yn gysylltiedig â cholli clyw sy'n cael ei achosi gan ddifrod i'r glust fewnol. Mae sŵn yn pasio o'r glust allanol i mewn i'r glust fewnol. Mae'r clust mewnol yn cynnwys y cochlea a'r nerf clywol. Mae'r cochlea yn diwb troellog, sy'n cynnwys nifer fawr o gelloedd gwallt sensitif. Mae'r nerf clywedol yn trosglwyddo signalau sain i'r ymennydd.

Os bydd rhan o'r cochlea yn cael ei ddifrodi, bydd yn methu danfon gwybodaeth gyflawn i'r ymennydd. Gall yr ymennydd wedyn fynd ati i "chwilio" am arwyddion o rannau o'r cochlea sy'n dal i weithio. Gallai'r arwyddion hyn wedyn gael eu gorgynrychioli yn yr ymennydd, a gallai hyn achosi synau tinitws.

Mewn pobl hyn, mae difrod i'r cochlea yn aml yn digwydd yn naturiol gydag oedran. Mewn pobl iau, gellir ei achosi trwy wrando ar ormodedd o sŵn uchel.

Achosion eraill

Yn ogystal â difrod y glust mewnol, mae nifer o achosion posib eraill o dinitws. Gan gynnwys:

  • Haint yn y glust ganol
  • Gŵer yn blocio'r glust
  • Niwed i bilen y glust
  • Clustlif
  • Clefyd Ménière - cyflwr sydd yn achosi tinitws, colli clyw a madrondod.
  • Otosclerosis - cyflwr sy'n cael ei etifeddu sydd yn achosi twf annormal yn esgyrn y glust ganol gan achosi trymder clyw.
  • Anaf i'r pen
  • Bod yn agos i sŵn anarferol o uchel megis ffrwydrad neu ergyd o gŵn.
  • Anaemia - nifer gostyngedig o gelloedd coch y gwaed a all weithiau achosi'r gwaed teneuo a chylchredeg mor gyflym ei fod yn cynhyrchu sain
  • Sgil effaith ambell i feddyginiaeth, megis rhai cemotherapi, gwrthfiotigau, diwretig,  cyffuriau gwrthlid ansteroidal (NSAID) ac aspirin
  • Y clefyd melys

Triniaethau

Bydd bron pawb yn profi tinitws yn achlysurol am gyfnodau byr iawn; yn y rhan fwyaf o achosion does dim angen gwneud dim ond gadael i'r profiad mynd heibio. Pan fo tinitws yn cael ei achosi gan gyflwr gellir ei drin, trin y cyflwr bydd ei angen yn hytrach na cheisio trin y tinitws. Er enghraifft rhoi gwrthfiotig i wella haint yn y glust neu lanhau gormodedd o ŵer o'r glust.

Y driniaeth sydd i'w gweld i weithio gorau ar gyfer tinitws yw math o gwnsela o'r enw Therapi Gwybyddol Ymddygiadol. Mae'n lleihau faint o straen y mae'r rhai â thinitws yn teimlo. Mae therapi derbyn ac ymrwymiad hefyd yn dangos addewid wrth drin tinitws. Gall technegau ymlacio hefyd profi'n ddefnyddiol.

Mae peiriannau masgio tinitws yn ystod o ddyfeisiadau sy'n creu sŵn gwyn syml sy'n cael eu defnyddio i ychwanegu sain naturiol neu artiffisial i mewn i amgylchedd y sawl sy'n dioddef er mwyn orchuddio'r canu.

Cyfeiriadau

Rhybudd Cyngor Meddygol


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!

Tags:

Tinitws Enwau CymraegTinitws Symptomau cyffredinTinitws Be syn achosi tinitws?Tinitws TriniaethauTinitws CyfeiriadauTinitws Rhybudd Cyngor MeddygolTinitwsNam ar y clyw

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Natalie WoodHwngariSteve HarleySt. Louis, MissouriWashington, D.C.Elizabeth TaylorCân Hiraeth Dan y LleuferIeithoedd CeltaiddSutter County, CalifforniaRhylSaunders County, NebraskaHil-laddiad ArmeniaPalo Alto, CalifforniaMET-ArtLafayette County, ArkansasSaesnegDigital object identifierJoseff StalinAfon PripyatPolcaEmma AlbaniGeni'r IesuMonroe County, OhioInternational Standard Name IdentifierYr Undeb EwropeaiddCheyenne, WyomingFerraraDiddymiad yr Undeb SofietaiddMadeiraFurnas County, NebraskaGreensboro, Gogledd CarolinaLlwgrwobrwyaethCecilia Payne-GaposchkinMarion County, OhioIndonesiaVladimir VysotskyMerrick County, NebraskaThe Bad SeedCombat WombatNevada County, ArkansasRhyw llawLewis HamiltonMwncïod y Byd NewyddChristina o LorraineGwlad PwylArolygon barn ar annibyniaeth i GymruAlba CalderónJohn BetjemanWinslow Township, New JerseyRoxbury Township, New JerseyMaes Awyr KeflavíkMetadataIsotopWilliam Jones (mathemategydd)The Namesake2022Hydref (tymor)Daugavpils681Christiane KubrickPaliBananaRhywogaethFfilm bornograffigVan Wert County, OhioPeiriannegMynyddoedd yr AtlasKatarina IvanovićPatricia CornwellJapanCAMK2BFreedom Strike🡆 More