Anhunedd

Y cyflwr meddygol a seicolegol o goll neu ddiffyg cwsg yw anhunedd (insomnia).

Mae rhaid wrth gwsg yn fiolegol ac mae anghenion unigolion yn amrywio'n fawr o tua tair i ddeg awr y nos, gan ddibynnu ar eu hoedran ac amgylchiadau eraill. Achosir anhunedd gan newid arferion, pryder, iselder a chyffuriau neu feddyginiaethau.

Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Gall fod yn flinedig iawn - fel canlyniad i orweithio, er enghraifft - peri anhunedd hefyd, gan fod y corff a'r meddwl yn methu ymlacio'n iawn.

Mae llawer o bobl yn credu mewn "cyfrif defaid" er mwyn syrthio i gysgu; mae rhywfaint o sail i'r gred hon gan fod undoniaeth y dasg yn debyg o beri i'r dioddefwr ymgolli ynddi a syrthio i gysgu mewn canlyniad. Ceir moddion soporiffig sy'n gallu helpu hefyd, ond mae perygl o ddod yn gaeth iddyn nhw os caent eu defnyddio am gyfnod hir a dylid ymgynghori â meddyg bob tro cyn eu defnyddio.

Triniaeth

Gall eich diet neu eich amserlen o ddydd i ddydd effeithio ar eich cwsg, ond mae pethau y gallwch eu gwneud i geisio cysgu’n well. Mae Childline yn awgrymu'r camau canlynol er mwyn ceisio cysgu'n well.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gyfforddus

Dim rhy boeth, dim rhy oer, dim rhy swnllyd na llachar.

Gwnewch ymarfer corff

Peidiwch â mynd dros ben llestri ond rhowch gynnig ar nofio neu gerdded yn rheolaidd. Yr amser gorau i wneud ymarfer corff yw yn ystod y dydd – yn benodol yn hwyr yn y prynhawn neu’n gynnar gyda’r nos. Gall gwneud ymarfer corff yn hwyrach na hyn amharu ar eich cwsg. Mae ymarfer corff yn llosgi egni ac yn rhyddhau endorffinau – cemegau naturiol sy’n eich helpu i ymlacio a theimlo’n llai pryderus.

Ysgrifennwch

Os oes rhywbeth yn eich poeni ac nid oes modd gwneud dim i wella’r sefyllfa ar unwaith, ceisiwch ysgrifennu’r hyn sy’n eich poeni i lawr cyn mynd i gysgu. Unwaith i chi ysgrifennu eich pryderon i lawr, gallwch ddelio gyda’r problemau yn y bore.

Ymlaciwch cyn mynd i’r gwely

Mae rhai pobl yn mwynhau darllen i ymlacio. Ceisiwch gadw at lyfrau copi caled – gall y golau o sgriniau cyfrifiadur neu rai e-ddarllenwyr ei gwneud hi’n anodd syrthio i gysgu. Ceisiwch osgoi eistedd o flaen sgrin am o leiaf dwy awr cyn yr amser rydych yn bwriadu mynd i’r gwely.

Cadwch eich ffôn symudol

Os yw eich ffrindiau’n eich cadw’n effro drwy eich ffonio neu drwy anfon negeseuon yn ddi-baid, ystyriwch ofyn iddynt roi’r gorau iddi. Diffoddwch sain eich ffôn, dewiswch y gosodiad ‘peidiwch ag amharu’ – neu diffoddwch eich ffôn yn gyfan gwbl.

Dychmygwch eich hun yn eich hoff le

Caewch eich llygaid a dychmygwch eich hun yn eich hoff le neu yn lle bynnag rydych eisiau bod un diwrnod. Dychmygwch eich hun yn hapus ac yn ymlacio. Anadlwch i mewn ac allan yn araf, gan ymlacio eich cyhyrau nes i chi deimlo fel eich bod wedi ymlacio’n llwyr.


Meddygaeth amgen

Defynyddir y planhigyn canlynol i wella diifyg cwsg h.y. fel help i berson gysgu: Briallen Fair.

Gweler hefyd

Dolennu allanol

Cyfeiriadau


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Problemau Cysgu ar wefan Anhunedd , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith.

Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall

Tags:

Anhunedd TriniaethAnhunedd Meddygaeth amgenAnhunedd Gweler hefydAnhunedd Dolennu allanolAnhunedd CyfeiriadauAnhuneddCwsgCyffurIselder ysbrydMeddyginiaeth

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

PwtiniaethCrefyddUnol Daleithiau AmericaTylluanRwsia4 ChwefrorDagestanCastell y BereHarold LloydBridget BevanBlogMy MistressGeometregCeri Wyn JonesPidynGwyddor Seinegol RyngwladolCymdeithas yr IaithCefn gwladYnys MônHela'r drywY FfindirOblast MoscfaHafanY Gwin a Cherddi EraillAnnie Jane Hughes GriffithsWhatsAppGorgiasOmanWici CofiAwdurdodEmojiAlldafliad benywDoreen LewisHarry ReemsWicidestunNapoleon I, ymerawdwr FfraincCymraegTsiecoslofaciaMorlo YsgithrogVirtual International Authority FileAmserMahanaGuys and DollsThe Merry CircusParth cyhoeddusDie Totale TherapieIwan LlwydFfilmReaganomegEconomi CymruElectricityColmán mac LénéniTomwelltTaj MahalCapel CelynClewerNos GalanHelen LucasMapXxGwyddbwyllIrene PapasAngladd Edward VIIHuluSystem ysgrifennuNovial🡆 More