Gorguro'r galon (neu camguro'r galon) yw unrhyw ddiffyg yng nghuriadau'r galon megis: curiadau rhy gyflym, rhy araf neu afreolaidd.
Gall gael ei achosi gan angina; gall hefyd fodoli oblegid gorweithio, adrenalin, alcohol, caffin, cocên, amffetaminau a chyffuriau eraill, afiechyd neu banic. Gall hefyd ddgwydd mewn mitral stenosis.
Mae bron pob person yn ei brofi yn achlysurol, ond os digwydd yn rheolaidd gall fod yn arwydd o broblem ehangach, waelodol. Fe all fod yn arwydd o broblemau'n ymwneud â'r galon neu gydag anemia neu diffyg ar y theiroid.
Gall y gorguro ddigwydd am gyfnodau o eiliadau neu hyd yn oed oriau. Os ceir gorguro ynghyd â symptom arall megis chwysu, llewygu, poenau yn y fron neu benysgafndod yna mae cryn bosibilrwydd fod y broblem waelodol yn ymwneud â'r galon a dylid ymgynghori â'r meddyg.
Fe all y gorguro ymwneud â phroblemau seicolegol megis panic, ffobia, ordyndra (neu straen bywyd; Sa: stress) neu iselder ysbryd.
Gall gorguro'r galon hefyd ddigwydd pan fo claf yn colli gwaed, yn dioddef poen neu pan fo'n derbyn llai o ocsigen nag arfer.
Dywedir fod camri, lafant, rhosmari, gwenynddail, saets y waun a ylang-ylang yn help i wella gorguro'r galon.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gorguro’r galon, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.