Sŵn (neu synau) sydyn a chras a wneir gan berson (ac weithiau anifail), un ar ôl y llall, yw peswch.
Mae'r gair hefyd yn disgrifio'r adwaith amddiffynnol gan y corff i feicrobau, llwch, bwyd ayb wedi mynd i mewn i'r ysgyfaint yn hytrach na'r oesoffagws. Dyma ddull y corff i'w gwaredu. Mae tair rhan i'r weithred o besychu: anadliad mewnol, anadliad allanol gyda'r glotis wedi'i gau ac yn olaf, gollwng yr anadl yn sydyn o'r ysgyfaint gyda'r glotis wedi'i agor. Mae peswch yn medru bod yn wirfoddol neu'n anwirfoddol. Gall heintiau ymledu drwy beswch.
Enghraifft o'r canlynol | symptom neu arwydd |
---|---|
Math | arwydd meddygol, respiratory signs and symptoms |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gweithred o fewn y Tracea yw pesychu lle mae cyhyrau'r fron yn cyfangu i wneud y nwyon adael yr ysgyfaint efo grym cryf. Mae peswch yn fwy tebygol o ddigwydd pan mae rhywun yn sâl. Mae peswch hefyd yn amlwg yn ystod annwyd yn enwedig pan fo llysnafedd (mwcws) yn gorchuddio'r celloedd yn y gwddf sy'n cael gwared â llwch a bacteria sydd yn cael ei anadlu mewn. Digwydd yn aml mewn aer sydd wedi'i halogi a phersonau sy'n ysmygu.
Tybir fod y llysiau canlynol yn gallu lliniaru tipyn ar yr anhwylder o besychu: teim, dail troed yr ebol ac erfinen.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Peswch, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.