Roedd Robert Ifor Parry (1908 – 18 Rhagfyr 1975, gan amlaf R.
Ifor Parry neu Ifor Parry) yn weinidog gyda'r Annibynwyr, athro yn Aberdâr ac enillydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
R. Ifor Parry | |
---|---|
Ganwyd | 1908 Caergybi |
Bu farw | 18 Rhagfyr 1975 Aberdâr |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, athro |
Ganed Parry yn Longford Terrace, Nghaergybi, Ynys Môn, yn fab i Benjamin Parry, a gyflogwyd fel peiriannydd ar longau yn hwylio o Gaergybi i Iwerddon. Addysgwyd ef yn Ysgol Sir Caergybi, cofrestrodd yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, lle enillodd radd dosbarth cyntaf mewn Hanes ym 1929 ac MA ym 1931 am draethawd ymchwil ar agwedd Annibynwyr Cymru at symudiadau dosbarth gweithiol rhwng 1815-1870. O ystyried hanes Aberdâr, efallai fod ei ddiddordebau ymchwil wedi bod yn ffactor wrth iddo dderbyn galwad gan gapel Siloa, Aberdâr, lle cafodd ei ordeinio ym mis Mehefin 1933. Dim ond y trydydd gweinidog yn hanes yr eglwys ydoedd, yn dilyn David Price (1843–78) a D. Silyn Evans (1880-1930). Ym 1940, priododd â Mona Morgan, yr oedd ei thad, Richard, yn ddiacon yn Siloa. Roedd ganddo ddiddordeb arbennig yn athroniaeth Karl Barth.
Enillodd Parry enw da fel pregethwr yn Aberdâr, er bod ei farn fodern ar ddiwinyddiaeth a dysgeidiaeth y Beibl, yn gwrthdaro â safbwyntiau mwy traddodiadol cenhedlaeth hŷn. Gwahoddwyd ef i bregethu ledled Cymru ac mewn cyfarfodydd blynyddol o'i enwad ei hun a sefydliadau eraill. Cyhoeddodd Parry hefyd nifer o lyfrau ac erthyglau, yn Gymraeg, yn bennaf ar wahanol agweddau ar hanes anghydffurfiaeth. Roedd hefyd yn hanesydd lleol nodedig, a ysgrifennodd golofn ar gyfer y papur lleol, yr Aberdare Leader.
Bu'n fuddugol ar gystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont, 1948 (a ddyfarnwyd yn 1951) ar ei draethawd, ‘'Diwinyddiaeth Karl Barth’'. Cyhoeddwyd y traethawd fel llyfr ym 1949.
Cyhoeddodd y llyfr Cymraeg safonol, Ymneilltuaeth, ym 1962 i ddathlu Trichanmlwyddiant 1662. YsgrifenNodd hefyd i gyhoeddiadau megis y Y Dysgedydd, Y Cofiadur a'r Traethodydd. Gwahoddwyd ef i annerch Undeb Bedyddwyr Cymru ym 1962 ar "Seiliau Diwinyddol Anghydffurfiaeth".
O bosib oherwydd dirywiad yn yr aelodaeth, daeth gofalaeth hir Parry yn Siloa i ben ym 1964, pan ddaeth yn Bennaeth Astudiaethau Crefyddol yn Ysgol Ramadeg Bechgyn Aberdâr. Bu farw Ifor Parry ar 18 Rhagfyr 1975, deufis wedi marwolaeth ei wraig, Mona. Gadawodd swm sylweddol o arian i Ysgol Ramadeg Bechgyn Aberdâr i waddoli Cronfa Ymddiriedolaeth Mona ac Ifor Parry, yr oedd yr incwm i'w ddefnyddio, yn rhannol, i ddyfarnu gwobr flynyddol am hanes lleol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article R. Ifor Parry, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.