Siloa, Aberdâr yw capel Annibynnol mwyaf Aberdâr.
Cynhelir gwasanaethau y capel yn y Gymraeg. Wedi'i sefydlu ym 1844, Siloa yw un o'r ychydig gapeli Cymraeg yn yr ardal sy'n parhau ar agor heddiw. Roedd Siloa yn nodedig am wasanaeth hir ei weinidogion. Rhwng 1843 a 1964 dim ond tri fu'n gweinidogaethu yno: David Price (1843-78), D. Silyn Evans (1880-1930) ac R. Ifor Parry (1933-64) .
Math | eglwys, capel |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Aberdâr |
Sir | Aberdâr, Dwyrain Aberdâr |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 130 metr |
Cyfesurynnau | 51.713034°N 3.448852°W |
Cod post | CF44 7HU |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Ym 1841, dechreuodd Thomas Rees, gweinidog Ebeneser, Trecynon gynnal ysgol Sul yn yr hyn oedd yna bentref cyfagos i Aberdâr ar y pryd. Dechreuodd bregethu yn Saesneg yno hefyd, gyda'r bwriad o sefydlu achos Saesneg. Pan ymadawodd Rees i ddod yn weinidog Siloah, Llanelli, yn gynnar ym 1842, daeth ei gynlluniau i ben ond bu i grŵp bach o aelodau Ebeneser barhau i gynnal cyfarfodydd, ond yn yr iaith Gymraeg. Y ffigwr blaenllaw oedd David Price, a oedd wedi symud i Aberdâr yn ddiweddar o Fro Nedd. Ar gynnig Price ddechreuwyd cynnal oedfaon yn ystafell hir Tafarn y Boot, Aberdâr. Ym 1843 gwnaed cais gan bedwar ar ddeg o aelod Ebeneser, Trecynon, yr eglwys annibynnol hynaf yn yr ardal, i gael eu rhyddhau i sefydlu eglwys newydd. Er gwaethaf amheuon rhai o'r aelodau hŷn, cymeradwywyd y cais a chafodd yr eglwys newydd ei enwi'n Siloa, er anrhydedd i eglwys newydd y cyn gweinidog yn Llanelli. Ymhlith yr aelodau gwreiddiol oedd David Price, a chwaraeodd rôl weithredol ac uniongyrchol yn y gwaith o adeiladu'r adeilad gwreiddiol. Roedd yr adeilad cyntaf yn costio £600.
Yn fuan wedi cychwyn yr achos ordeiniwyd David Price fel gweinidog Siloa, a bu'n gwasanaethu fel trysorydd yr achos am sawl blwyddyn hefyd. Bu David Price gynt yn gweithio fel glowr. Yn ystod Streic Aberdâr 1857-8 fe ymddangosodd ar lwyfan ochr yn ochr â Henry Austin Bruce, gan gyfieithu ei sylwadau i'r Gymraeg a gan adrodd ei brofiadau ei hun fel glöwr ifanc ar streic flynyddoedd lawer cynt, mewn ymgais i berswadio'r glowyr i ddychwelyd i'r gwaith. Roedd ei farn yn adlewyrchu agwedd llugoer arweinwyr anghydffurfiol tuag at undebaeth llafur ar y pryd.
Sefydlwyd Siloa ar yr adeg pan oedd Aberdâr yn datblygu'n gyflym fel anheddiad diwydiannol o ganlyniad i dwf yn y fasnach glo stêm. Yn ystod y weinidogaeth Price, roedd nifer fawr o fewnfudwyr i'r ardal, yn enwedig o siroedd gwledig Caerfyrddin, Ceredigion, Penfro a Brycheiniog. Ysgogodd y twf yn y boblogaeth twf tebyg yn aelodaeth Siloa. Cododd i dros 600, gan ei wneud yr eglwys fwyaf niferus yn y dyffryn yn nhermau aelodaeth yn y 1860au. Yn ogystal â'r cynnydd aelodaeth o ganlyniad i ddatblygiad diwydiannol, cafodd yr aelodaeth hwb sylweddol o ganlyniad i ddiwygiad 1849 a chafodd Siloa ei hailadeiladu a'i ehangu ym 1855 am gost o £719. Ar ôl diwygiad pellach ym 1859, roedd hwb arall i'r aelodaeth a chliriwyd y dyledion adeiladu erbyn 1860.
Roedd Siloa yn chwarae rhan bwysig yn y cynnydd o radicaliaeth wleidyddol yn y 19g, sef mudiad a oedd yn gysylltiedig yn agos â diffyg cydymffurfiaeth. Ym 1848 cynhaliwyd cyfarfod nodedig yn Siloa, dan gadeiryddiaeth David Williams (Alaw Goch) i brotestio yn erbyn y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r comisiynwyr oedd yn paratoi Adroddiadau Addysg 1847 gan ficer Aberdâr, John Griffith. Chwaraeodd Thomas Price, gweinidog cyfagos Calfaria, ran amlwg yn y cyfarfod hwn.
Sefydlwyd sawl eglwys fel canghennau o Siloa drwy weinidogaeth Price, gan gynnwys Bethesda, Abernant, lle bu hefyd yn weinidog, a Bryn Seion, Cwmbach . Roedd aelodau Siloa hefyd yn ymwneud â ffurfio eglwysi yn Aberpennar, Aberaman, Cwmaman a Chwmdâr.
Ym 1866, cyflwynodd yr eglwys anerchiad i Price a rhodd o £170, a godwyd gan aelodau'r eglwys, i gydnabod ei wasanaeth.
Bu farw Price ym 1878 yn 68 oed.
Silyn Evans fu olynydd David Price i weinidogaeth Siloa, ac yn ddiweddarach ysgrifennodd bywgraffiad er cof amdano.
Roedd gan Siloa 661 o aelodau ym 1899 ac, yn sgil y Diwygiad 1904-1905, roedd hyn wedi cynyddu i 761 erbyn 1907.
Cynhaliwyd adnewyddiadau helaeth ym 1890 ar gost o £1,100. Cynhaliwyd gwasanaethau Jiwbilî i ddathlu clirio'r dyledion a daeth yn sgil y gwaith hwn ym mis Ionawr 1905 gan gyd-daro â'r Diwygiad.
Ym 1918, cafwyd dadl dros benderfyniad gan yr eglwys i atal cyfraniadau i Goleg Diwinyddol Bala-Bangor oherwydd agweddau heddychlon ei brifathro, Thomas Rees ar adeg y Rhyfel Byd Cyntaf.
Erbyn 1923 roedd yr aelodaeth wedi gostwng i 645.
Roedd yr aelodaeth yn Siloa yn 501 ym 1933 pan ddechreuodd R. Ifor Parry ei weinidogaeth. Erbyn 1954 roedd yr aelodaeth wedi gostwng i 363, gyda dirywiad pellach i 191, pan ymddiswyddodd Parry o'r weinidogaeth.
O 1980 cynhaliwyd gwasanaethau yn y festri oherwydd dirywiad sylweddol yn yr aelodaeth. Yn wahanol i eglwysi eraill yn y dyffryn, fodd bynnag, mae Siloa wedi parhau i weithredu fel eglwys Gymraeg. Fe ddaeth yr achos i ben yn 2021.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Siloa, Aberdâr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.