Marchog Galisiaidd poblogaidd oedd Pedro Álvarez de Soutomaior, Count of Caminha, a adnabyddir ar lafar fel Pedro Madruga (c.
1430 - 1486). Ei elyn pennaf oedd Alfonso II o Fonseca a'r gwrthryfelwyr Galisaidd, yr Irmandiña. Wedi cryn frwydro, daeth holl diroedd de Galisia o dan feddiant Pedro. Yn llythrennol, ystyr ei enw yw 'Pedro - y boregodwr'.
Pedro Madruga | |
---|---|
Ffugenw | Pedro Madruga |
Ganwyd | 1430 Pontevedra |
Bu farw | 16 Hydref 1486 Alba de Tormes |
Man preswyl | Castle of Soutomaior |
Dinasyddiaeth | Galisia |
Swydd | Q17318070, is-iarll, marshal |
Tad | Fernán Yañez de Sotomayor, Señor de Sotomayor |
Mam | Constanza de Zúñiga |
Priod | Teresa de Távora |
Plant | Alvaro de Sotomayor, Conde de Caminha |
Derbyniodd addysg babyddol, Ladin gan fynachod Dominiciaid ger Tuy, un o faestrefi dwyreiniol Pontevedra.
Mynn un chwedl mai'r un person oedd Pedro a Christopher Columbus; mae hefyd yn bosibl mai'r un person oedd mab y ddau. Dysgodd sut i fordwyo (neu fforio) llongau am 23 mlynedd - yr union gyfnod a nododd Columbus yn ei ddyddiaduron.
Cartref ei deulu oedd Castell Soutomaior, a leolwyd mewn safle allweddol yn nyffryn Afon Verdugo, ychydig gilometrau o ddinas Pontevedra ac sy'n dal i sefyll. Mae'r castell yn esiampl rhagorol o gaer amddiffynnol o'r Oesoedd Canol ac yn dyddio'n ôl i'r 12g, ond a ddatblygwyd ymhellach yn y 15g. Ceir waliau allanol o siap ofal, sy'n anghyffredin iawn, ac sy'n amddiffyn dau dŵr a gysylltir â phont, ffos a phont grog.
Yn ôl Vasco da Ponte:
Ni cheir llawer o wybodaeth amdano ar ôl 1487. Credir iddo ffugio'i farwolaeth ei hun, fel rhan o gynllun rhyngddo a Brenhinoedd Pabyddol Galisia.
Yn 1468 gwelwyd ail wrthryfel Irmandina, ger Tui, ble addysgwyd Pedro. Chwydro oedd hwn, gan werin yr ardal, a gipiodd llawer o diroedd yr uchelwyr, gan eu hel i Bortiwgal ar ffo. Casglodd Pedro lawer o'r gwŷr hyn, a'i fyddin ef, mewn gwirionedd, oedd y cyntaf i ddefnyddio gynnau or enw 'arcabuzes' yn yr ardal a adnabyddir heddiw fel Sbaen. Pedro a gariodd y dydd, a dychwelwyd y tiroedd yn ôl i'w farchogion triw. Yn ystod y gwrthryfel hwn y priododd Teresa de Tavora ym Mhortiwgal.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pedro Madruga, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.