Un o gymunedau ymreolaethol Sbaen yw Galisia (Galisieg: Galicia; Galiza, Sbaeneg Galicia).
Saif yng ngogledd-orllewin yr orynys Iberaidd. Mae nifer o ynysoedd megis y Cíes, Ons, Cortegada, Arousa, Sálvora a Vionta yn rhan o Galisia. Ystyrir Galisia yn genedl hanesyddol, fel Catalwnia ac Ewskadi (sef Gwlad y Basg).
Math | Cymunedau ymreolaethol Sbaen, historical nationality, ardal ddiwylliannol, cenedl, teyrnas, gwlad |
---|---|
Prifddinas | Santiago de Compostela |
Poblogaeth | 2,695,645 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Os Pinos |
Pennaeth llywodraeth | Alfonso Rueda |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Wakayama |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Galiseg, Sbaeneg |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 29,574 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd, Môr Cantabria |
Yn ffinio gyda | Asturias, Castilla y León, Norte Region |
Cyfesurynnau | 42.8°N 7.9°W |
ES-GA | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Xunta de Galicia |
Corff deddfwriaethol | Parliament of Galicia |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | President of the Xunta of Galicia |
Pennaeth y Llywodraeth | Alfonso Rueda |
Mae gan Galisia ei hiaith ei hun, Galisieg, sy'n iaith Rufeinaidd, sy'n debygach i Bortiwgaleg na Sbaeneg. Yn ôl astudiaeth ddiweddar defnyddir yr iaith gan tua 80% o'r boblogaeth. Ymhlith ei harwyr chwedlonol mae Pedro Pardo de Cela (c. 1425 - 17 Rhagfyr 1483). Ystyrir Ramón Piñeiro (31 Mai 1915 - 27 Awst 1990) yn Athronydd, awdur a chenedlaetholwr o bwys. Fe'i ganwyd yn Armea de Abaixo, Lama, Láncara, Galisia ac roedd yn flaenllaw yn ei ymdrech i hyrwyddo diwylliant Galicia wedi Rhyfel Cartref Sbaen.
Roedd Rosalía de Castro (1837 – 1885) yn brif lenor Galisia ac heddiw yn arwres ffeministaidd. Cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth Cantares gallegos (Caneuon Galisieg) ar 17 Mai, 1863. Mae 17 Mai bellach yn cael ei dathlu fel Día das Letras Galegas - Diwrnod llenyddiaeth Galisieg, yn ddiwrnod o wyliau yn Galisia. Un o brif ffigyrau eraill Galisia yw Castelao (1886 – 1950) a oedd yn arweinydd y mudiad cenelaethol, ysgrifennwr, arlunydd, cartwnydd, dramodydd a doctor.
Mae Galisia yn cael ei hystyried fel gwlad Geltaidd am ei gysylltiadau Celtaidd hanesyddol.
Enw un o brif glybiau pêl-droed y wlad yw Celta de Vigo (Celtiad Vigo) ac mae cerddoriaeth draddodiadol Galisia yn cynnwys offerynnau Celtaidd fel y pibgod.
Mae Os Pinos - anthem genelaethol y wlad yn cyfeirio at Galisia fel ‘Cenedl Beogán’. Roedd Breogán (Breoghan, Bregon neu Breachdan) yn arwr yn hanes Celtaidd. Mae’r llyfr Gwyddelig Lebor Gabála Érenn (Llyfr llafar Iwerddon) o’r canoloesol yn cyfeirio at Breogán a’i disgynyddion yn teithio i Galisia a sefydlu dinas Brigantia (A Coruña heddiw). Mae cerflun modern enfawr o Beogán yn sefyll yn A Coruña yn edrych tua'r môr ac Iwerddon
Yn economaidd, mae Galisia yn dibynnu i raddau helaeth ar amaethyddiaeth a physgota. Mae twristiaeth hefyd yn elfen bwysig, ac mae miloedd o bererinion yn cyrchu i Santiago de Compostela bob blwyddyn ar hyd y Camino de Santiago.
Y prif ddinasoedd yw: Vigo, A Coruña, Ourense, Lugo, Santiago de Compostela (y brifddinas), Pontevedra a Ferrol.
Yr ardaloedd mwyaf poblog yw:
Rhestr dinasoedd a threfi yn Galisia yn ôl poblogaeth | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Tref/Dinas | Rhanbarth | Poblogaeth (2013) | Tref/Dinas | Rhanbarth | Poblogaeth (2013) | |||||
1 | Vigo | Pontevedra | 294,997 | 11 | Carballo | A Coruña | 31,303 | |||
2 | A Coruña | A Coruña | 244,810 | 12 | Arteixo | A Coruña | 30,482 | |||
3 | Ourense | Ourense | 106,905 | 13 | Redondela | Pontevedra | 30,006 | |||
4 | Lugo | Lugo | 98,007 | 14 | Culleredo | A Coruña | 29,207 | |||
5 | Santiago de Compostela | A Coruña | 95,207 | 15 | Ames | A Coruña | 28,852 | |||
6 | Pontevedra | Pontevedra | 82,946 | 16 | Ribeira | A Coruña | 27,699 | |||
7 | Ferrol | A Coruña | 70,389 | 17 | Cangas | Pontevedra | 26,121 | |||
8 | Narón | A Coruña | 39,450 | 18 | Marín | Pontevedra | 25,864 | |||
9 | Vilagarcía de Arousa | Pontevedra | 37,621 | 19 | Cambre | A Coruña | 23,649 | |||
10 | Oleiros | A Coruña | 34,470 | 20 | Ponteareas | Pontevedra | 23,561 |
Andalucía · Aragón · Asturias · Cantabria · Castilla-La Mancha · Castilla y León · Catalwnia · Extremadura · Galisia · Gwlad y Basg · Madrid · Murcia · Navarra · La Rioja · Valenciana · Ynysoedd Balearig · Yr Ynysoedd Dedwydd ·
Dinasoedd ymreolaethol
Ceuta · Melilla
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Galisia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.