Chwyldro cymdeithasol a chenedlaetholgar rhwng 1467 a 1469 gan bobl Galisia oedd Rhyfel Mawr Irmandiña.
Yr enw Galisieg ar y chwyldroadwyr oedd Yr Irmadiños, a chlensiwyd eu hymgyrch gan orthrwm Teyrnas Castilla. Mae'n debygol mai dyma'r chwyldro mwyaf a welodd Ewrop yn y 15g.
Yng ngwanwyn 1467 y taniwyd y wreichionen gyntaf pan oedd y werin bobl, merched, morwyr a gwŷr yr eglwys wedi cael llond bol o afiechydon (e.e. epidemig 1466), newyn a chael eu trin yn wael gan uchelwyr y wlad; roedd effaith rhyfel cartref gwleidyddol Coroa de Castela hefyd yn ffactor. Ffurfiodd y werin frawdoliaeth sanctaidd (Santa Irmandade) a chynyddwyd eu niferoedd fel caseg eira oherwydd y teimladau dwfn eu bod wedi cael eu camdrin am gyhyd.
Nid dyma'r tro cyntaf i'r Irmandiños ddod ynghyd i wrthwynebu'r drefn. Cafwyd sawl gwrthryfel mewn gwahanol rannau o Galisia cyn hyn. Yn ôl yr hanesydd Carlos Barros Guimeráns y tro cyntaf i'r Frawdoliaeth ymgynull oedd yng ngwrthryfel 1418-1422 yn Santiago de Compostela.
Er bod Brenhiniaeth Galisia wedi'u huno i raddau gyda Choron a Brenhiniaeth Castilla a Brenhiniaeth León yn 1037 roedd ganddi nodweddion tra gwahanol, gan gynnwys elfenau ffiwdal, crefyddol ac wrth gwrs ei mynyddoedd a'i cadwai ar wahân. Manteisiai'r uchelwyr ar hyn: yr Osorios yn Monforte de Lemos a Sarria, y Andrade yn Pontedeume, y Moscosos yn Vimianzo er enghraifft, a gorthryment y bobl gyffredin yn ddi-stop.
Cafwyd dau chwyldro:
Yr arweinydd y tu ôl i'r gwrthryfel oedd Alonso de Lanzós - a hynny gyda chefnogaeth lwyr Harri IV o Gastilla, a 'chynghorau' rhanbarthol A Coruña, Betanzos, Ferrol a Lugo. Mae'r ffaith i'r cynghorau hyn ymuno yn codi'r lefel i 'ryfel' a 'chwyldro' yn hytrach nag 'ymgyrch' neu 'ymosodiad'.
Ar gychwyn y rhyfel ffodd llawer o'r uchelwyr i Bortigal neu Gastilla, ond yn 1469 dechreuodd Pedro Madruga wrthymosodiad o Bortiwgal, gyda chefnogaeth llawer o'r uchelwyr a oedd yno ar ffo. Cefnogwyd ef hefyd gan frenhinoedd Portiwgal a Chastilla a byddin arfog archesgob Santiago de Compostela. Roedd gan fyddin Pedro Madruga gwell arfau, a llawer o arfau dyfeisgar, newydd e.e. y mysged mwyaf diweddar, yr arquebuse. Ac oherwydd hyn, trechwyd yr Irmandiña, daliwyd yr arweinyddion a'u lladd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhyfel Mawr Irmandiña, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.