Copa mwyaf gogleddol mynyddoedd Y Berwyn yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Moel Fferna.
Saif ychydig i'r de o'r briffordd A5, i'r de-orllewin o bentref Glyndyfrdwy, ar y ffin rhwng siroedd Dinbych a Wrecsam; cyfeiriad grid SJ116397. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 525metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Berwyn |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Uwch y môr | 630 metr |
Cyfesurynnau | 52.94827°N 3.3159°W |
Cod OS | SJ1168339800 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 105 metr |
Rhiant gopa | Cadair Berwyn |
Cadwyn fynydd | Y Berwyn |
Mae Afon Ceiriog yn tarddu ar lechweddau deheuol Moel Fferna, lle mae Afon Ceiriog Ddu yn tarddu a llifo tua'r de. Ar un adeg roedd y diwydiant llechi yn bwysig yma, gyda chwarel Glyndyfrdwy ar lechweddau Moel Fferna yn un o chwareli pwysicaf gogledd-ddwyrain Cymru.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt, Nuttall a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”. Uchder y copa o lefel y môr ydy 630m (2067tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 20 Tachwedd 2009.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Moel Fferna, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.