Llong ryfel gyflym sy'n hebrwng llongau eraill i'w hamddiffyn yw llong ddistryw neu ddistrywlong.
Yn hanesyddol cawsant eu defnyddio i saethu torpidos, ond erbyn heddiw fe'u defnyddir i hebrwng llongau wyneb môr eraill fel rhan o lynges osgordd, naill ai gyda llongau masnach sy'n hwylio dan warchod neu drwy amgylchynu tasglu llyngesol ac amddiffyn y cludydd awyrennau a'r llongau tirddyfrol.
Yr USS Winston S. Churchill, un o longau distryw Llynges yr Unol Daleithiau yn nosbarth Arleigh Burke. | |
Enghraifft o'r canlynol | math o long |
---|---|
Math | llong ryfel |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnyddiwyd yr enw yn niwedd y 19g i ddisgrifio'r llongau 250-tunnell a adeiladwyd i amddiffyn llongau brwydro rhag cychod torpido. Y cyntaf ohonynt oedd y Destructor a gafodd ei dylunio gan Fernando Villaamil a'i comisiynu gan Lynges Sbaen yn 1887. Mabwysiadwyd y syniad yn fuan gan y Llynges Frenhinol drwy gomisiynu chwe "distrywydd cychod torpido" (torpedo boat destroyer neu TBD) yn nosbarthau'r Daring, Havock, a Ferret. Erbyn dechrau'r 20g, roedd llyngesau'r pwerau mawrion i gyd yn cynnwys llongau distryw.
Datblygodd y ddistrywlong yn ffurf fawr ar y cwch torpido, ac yn y Rhyfel Byd Cyntaf danfonwyd llongau distryw ar y blaen i'r llynges frwydro er mwyn iddynt chwilota, gwthio distrywlongau'r gelyn yn ôl gyda'r gynnau mawr, ac yna saethu torpidos at griwserau a llongau brwydro'r gelyn. Yn ddiweddarach defnyddiwyd llongau tanfor i lansio torpidos, gan ddwyn prif swyddogaeth y llong ddistryw oddi arni. Yn ystod oes newydd rhyfela'r llongau tanfor, addaswyd y llong ddistryw i'w galluogi i hebrwng llongau eraill ar wyneb y môr. Gosodwyd hydroffonau a ffrwydron tanddwr ar longau distryw i'w hamddiffyn rhag ymosodiadau gan longau tanfor. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth arfau gwrthawyrennol a thechnolegau newydd megis radar yn bwysig i amddiffyn rhag ymosodiadau o'r awyr. Cyfranasant hefyd mewn brwydrau ar y môr, yn enwedig rhwng Llynges yr Unol Daleithiau a Llynges Imperialaidd Japan yn y Cefnfor Tawel, drwy ddefnyddio'u torpidos a'u gynnau yn erbyn llongau'r gelyn.
Cyfarperir llongau distryw modern gydag thaflegrynnau a saethir o wyneb y môr i'r awyr, torpidos a saethir at longau tanfor, taflegrynnau a saethir at longau wyneb môr eraill, ac un tyred neu ddau gyda gynnau mawr o galibr 100–130 mm. Mae nifer o longau distryw yn cludo hofrenyddion sy'n chwilota am longau tanfor, ac mae rhai o longau Llynges yr Unol Daleithiau yn gallu saethu taflegrynnau o'r môr at dargedau ar y tir. Yn gyffredinol, mae'r llong ddistryw fodern yn dadleoli 5000–10 000 o dunelli, yn teithio ar fuanedd o 30 not neu'n gyflymach, ac yn cludo rhyw 300–400 o griw.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llong ddistryw, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.