Peiriant i deithio drwy'r awyr ydy hofrennydd, a gaiff ei yrru gyda chymorth llafnau metel sy'n troi uwch ei ben; ceir llafnau i reoli'r cyfeiriad hefyd - rhai llai - ar gynffon yr hofrennydd.
Yn wahanol i'r awyren gyffredin, gall godi a glanio'n fertig sy'n ei wneud yn arbennig o ddefnyddiol i'w ddefnyddio mewn llefydd anial, heb lwybr glanio. Gelwir peiriant sydd a 3 neu ragor o lafnau yn 'amrodor'.
Datblygwyd y dechnoleg i'w lunio yn ystod hanner cynta'r 20g. Yr hofrennydd masnachol cyntaf oedd y Focke-Wulf Fw 61 a hynny yn 1936. Bellach, defnyddir yr hofrennydd i wahanol bwrpas gan gynnwys: gan yr heddlu, y fyddin, pleser ac fel ambiwlans awyr. Cânt eu defnyddio hefyd i arbed bywydau a gan ffermwyr i chwistrellu cemegolion ar gnydau neu i gario teithwyr. Maent yn arbennig o ddefnyddiol fel peiriannau lladd, fel y gwelwyd yn Rhyfel Fietnam.
Ar 13 Mehefin, 2013, AeroVelo Atlas oedd yr hofrennydd cyntaf a bwerwyd gan ddyn i godi am dros munud o amser ac a gododd 3.3 metr o'r ddaear, ac felly'n cipio Gwobr Igor I. Sikorsky Human Powered Helicopter Competition. Roedd amodau'r gystadleuaeth hefyd yn mynnu fod yr hofrennydd yn cadw o fewn sgwâr 10 m (32.8 tr) wrth 10 m. Crewyd y sialens ym 1980 gyda gwobr o US$10,000 i gychwyn ond codwyd hyn i $250,000 yn 2009. Wedi i'r wobr godi, roedd dau gystadleuydd benben a'i gilydd: AeroVelo o Ganada a Team Gamera o Maryland.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Hofrennydd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.