Cerbyd neu beiriant sy'n medru hedfan gan ddefnyddio'r awyr i'w chynnal ei hun yw awyren.
Yn aml defnyddir y gair yn yr ystyr awyren drymach nag aer, ag iddi adenydd sefydlog, ac yn benodol eroplen, ond yn wir gall "awyren" gyfeirio at unrhyw beiriant hedfan gan gynnwys awyrennau ysgafnach nag aer megis balŵn. Nid yw roced, ar y llaw arall, yn cael ei chynnal gan yr awyr o'i chwmpas ac felly, nid yw'n awyren.
Enghraifft o'r canlynol | dull o deithio |
---|---|
Math | peiriant hedfan, cerbyd |
Yn cynnwys | Caban peilot |
Gweithredwr | global aircraft fleet, Algerian People's National Armed Forces, Argentine Army Aviation, Argentine Air Force, Argentine Naval Aviation, Chilean Army Aviation, Chilean Air Force, Armed Forces of Chile, Chilean Naval Aviation, Bundeswehr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Awyrennu yw'r maes sy'n ymwneud â chludiant hedfan a'r diwydiant awyrennau, ac awyrenneg yw astudiaeth, dyluniad a gwneuthuriaid awyrennau.
Rhaid i awyren sy'n drymach na'r aer o'i chwmpas fedru gwthio'r aer tuag i lawr, gan gynhyrchu adwaith sy'n gwthio'r awyren ei hun tuag i fyny. Mae'n hanfodol hefyd fod siâp yr awyren, o ran aerodynameg yn gywir i leihau ffrithiant. Y dulliau arferol o wthio'r aer tuag i lawr yw un ai adenydd sefydlog, sy'n cadw'r awyren yn yr awyr oherwydd ei bod yn symud ymlaen, neu "adenydd" sy'n troi yn eu hunfan, megis ar hofrennydd.
Y ddwy ddamwain awyren waethaf yng Nghymru ydyw Tresigin a Chwm Carno. Mae'r tirwedd - mynyddoedd uchel - yn golygu cymylau isel, ac mae hyn wedi achosi llawer o fân ddamweiniau. Ymhlith damweiniau cyfnod yr Ail Ryfel Byd, un o'r gwaethaf oedd honno ger Abermaw, ar 8 Mehgefin 1945 pan syrthiodd B-17 Fortress Americanaidd gan ladd 20 o filwyr. Cafwyd damwain hefyd yn 1953 yn Wrecsam ar 8 Ionawr 1953 pan disgynnodd Boeing Washington (awyren fomio) gan ladd 10 criw o ddeg.
Dyma restr o'r damweiniau gwaethaf yn ôl y niferoedd a fu farw:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Awyren, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.