Lhasa yw prifddinas draddodiadol Tibet a phrifddinas Talaith Ymreolaethol Tibet dan lywodraeth Gweriniaeth Pobl Tsieina.
Y ddinas yw canolfan draddodiadol y Dalai Lama ac mae Bwdhaeth Tibet yn ei hystyried y ddinas fwyaf sanctaidd yn Tibet.
Math | dinas lefel rhaglawiaeth, dinas fawr, dinas, dinas-wladwriaeth, anheddiad dynol |
---|---|
Poblogaeth | 867,891 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+08:00 |
Gefeilldref/i | Beit Shemesh, Elista |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhanbarth Ymreolaethol Tibet |
Gwlad | Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Arwynebedd | 29,634.01 km² |
Uwch y môr | 3,650 metr |
Cyfesurynnau | 29.64576°N 91.14082°E |
Cod post | 850000 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Q106704936 |
Mae'r ddinas yn un o'r rhai uchaf yn y byd, tua 3,650 m (11,975 troedfedd). Mae'r boblogaeth tua 255,000.
Ymhlith yr adeiladau o ddiddordeb mae Palas Potala, Teml Jokhang a Mynachlog Sera.
Yn 2006 agorwyd y rheilffordd uchaf yn y byd yn cysylltu Lhasa a Beijing. Mae'n ddatblygiad dadleuol, gan fod nifer o Dibetwyr yn gweld bygythiad o gynyddu'r mewnlifiad o bobl Han i Dibet, proses sy'n araf droi'r Tibetwyr yn lleiafrif yn eu gwlad eu hunain.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Lhasa, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.