Iaith ryngwladol sy'n defnyddio geiriau mwyaf cyffredin Lladin, Eidaleg, Sbaeneg, Portiwgaleg, Ffrangeg a Saesneg yw Interlingua.
Y canlyniad yw Lladin modern syml.
Enghraifft o'r canlynol | Iaith artiffisial, iaith gynorthwyol ryngwladol |
---|---|
Crëwr | International Auxiliary Language Association, Alexander Gode |
Dechrau/Sefydlu | 1951 |
Enw brodorol | Interlingua |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | ia |
cod ISO 639-2 | ina |
cod ISO 639-3 | ina |
System ysgrifennu | Interlingua alphabet, yr wyddor Ladin |
Corff rheoleiddio | International Auxiliary Language Association |
Gwefan | http://www.interlingua.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y gwahaniaeth rhwng Interlingua ac Esperanto yw bod geiriau Esperanto wedi eu creu yn ôl rheolau'r iaith a dim ond y rhai sydd wedi dysgu'r iaith sy'n ei deall. Dydy geiriau Interlingua ddim wedi eu creu. Roedden nhw'n bodoli'n barod. Y canlyniad yw bod unrhyw un sy'n medru dwy iaith Ewropeaidd yn deall 80% neu 90% o Interlingua yn barod, heb ddysgu dim ohoni. Fe fydd yr Eidalwyr, y Sbaenwyr a'r Portiwgalwyr yn deall Interlingua heb ddim trafferth. Iddyn nhw fe fydd yn swnio fel tafodiaith o'u hiaith eu hunain.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Interlingua, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.