Emyr Humphreys: Awdur a bardd o Gymru

Llenor, bardd a nofelydd Cymreig oedd Emyr Owen Humphreys (15 Ebrill 1919 – 30 Medi 2020), ac un o nofelwyr mwyaf blaengar Cymru.

Emyr Humphreys
Ganwyd15 Ebrill 1919 Edit this on Wikidata
Trelawnyd Edit this on Wikidata
Bu farw30 Medi 2020 Edit this on Wikidata
Llanfair Pwllgwyngyll Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, nofelydd, darlithydd, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PlantDewi Humphreys, Siôn Humphreys Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Gwobr Somerset Maugham, Gwobr Hawthornden, Llyfr y Flwyddyn, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

Bywyd cynnar a theulu

Ganwyd Humphreys yn Nhrelawnyd ger Prestatyn, Sir y Fflint, yn fab i William Humphreys, ysgolfeistr y pentref a sylfaenydd ac arweinydd Côr Meibion Trelawnyd a Sarah Rosina (née Owen), ei wraig. Cefnder trwy waed a brawd iddo trwy fabwysiad oedd yr awdur Y Parchedig Ganon John Elwyn Humphreys OBE, Lisbon; Roedd tad Emyr yn gyfyrder i'r Prifardd Hedd Wyn. Mynychodd Ysgol Uwchradd y Rhyl. Siaradwr Saesneg yn unig oedd Humphreys ond dechreuodd ddysgu'r Gymraeg wedi i ysgol fomio Penyberth yn Llŷn gael ei llosgi ym 1936 ac ysgogwyd ei ddiddordeb yn yr iaith.

Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, lle bu'n cyd-letya gyda'r cyfreithiwr a'r awdur, Emyr Currie-Jones.

Ym 1946 priododd Elinor Myfanwy Jones yng Nghaernarfon a bu iddynt tri mab ac un ferch - Sion, Mair, Robin a Dewi. Mae Dewi, ei fab hynaf, yn gyfarwyddwr teledu a fu'n gyfrifol am raglenni megis The Vicar of Dibley ac Absolutely Fabulous. Mae ei ail fab Siôn yn gyfarwyddwr ffilm a theledu a fu'n gyfrifol am raglenni megis Pengelli a Teulu yn ogystal â sawl ffilm Gymraeg nodedig. Bu ei wyr Eitan ap Dewi yn chwaraewr rygbi rhyngwladol yn chware yn safle’r mewnwr i dîm Israel .

Gyrfa broffesiynol

Aeth ymlaen i astudio hanes ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Cofrestrodd fel gwrthwynebwr cydwybodol pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd ym 1939. Wedi'r rhyfel bu'n gweithio fel athro, cynhyrchydd radio gyda'r BBC ac yn ddiweddarach daeth yn ddarlithydd drama ym Mhrifysgol Bangor. Carcharwyd Humphreys am wrthod prynu trwydded deledu yn ystod y 1970au mewn protest yn erbyn diffyg lle a statws i'r Gymraeg ar y teledu yng Nghymru.

Gyrfa lenyddol

Daeth yn llenor llawn amser ym 1972. Yn ystod ei yrfa lenyddol, cyhoeddodd dros ugain o nofelau, gan gynnwys clasuron megis A Toy Epic (1958), Outside the House of Baal (1965), a The Land of the Living, a chyfres epic o saith nofel yn adrodd hanes gwleidydol a diwylliannol Cymru yn yr 20fed ganrif: Flesh and Blood, The Best of Friends, Salt of the Earth, An Absolute Hero, Open Secrets, National Winner a Bonds of Attachment. Mae hefyd wedi ysgrifennu dramâu ar gyfer y llwyfan a theledu, straeon byrion, The Taliesin Tradition (hanes diwylliannol Cymru), a chyhoedodd casgliad o'i farddoniaeth, Collected Poems, ym 1999.

Ymysg ei anrhydeddau, gwobrwywyd y Wobr Somerset Maugham ym 1958 ar gyfer Hear and Forgive, a'r Wobr Hawthornden ar gyfer A Toy Epic yr un flwyddyn. Enillodd Humphreys wobr Llyfr y Flwyddyn ym 1992 ac 1999. Yn 2004, enillodd Humphreys wobr cyntaf Siân Phillips am ei gyfraniad i radio a theledu yng Nghymru. Roedd Humphreys yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac o'r Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth ac yn un o noddwyr Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru.

Disgrifwyd ef gan R. S. Thomas fel "the supreme interpreter of Welsh life".

Roedd yn byw yn Llanfairpwll, Ynys Môn lle bu farw yn 101 mlwydd oed.


Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Emyr Humphreys BywgraffiadEmyr Humphreys Gweler hefydEmyr Humphreys CyfeiriadauEmyr Humphreys Dolenni allanolEmyr Humphreys15 Ebrill1919202030 MediBarddCymruCymryLlenorNofelydd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Newcastle upon TyneJess DaviesAbacwsHenri de La Tour d’Auvergne, vicomte de TurenneAbaty Dinas BasingGoodreadsDewi LlwydRhannydd cyffredin mwyafWicipedia CymraegJohn FogertyNəriman NərimanovArmeniaWikipediaTatum, New MexicoHimmelskibetBlwyddyn naidMamalPanda MawrJoseff StalinCannesThe JerkGleidr (awyren)Made in AmericaConsertinaAberteifiRhestr blodauY Rhyfel Byd CyntafHwlfforddGodzilla X MechagodzillaKrakówGweriniaeth Pobl TsieinaPupur tsiliDeslanosidNeo-ryddfrydiaethTair Talaith CymruAlfred JanesPengwin barfog1499Maria Anna o SbaenJimmy WalesHaikuHanover, MassachusettsSeren Goch Belgrâd4 MehefinMeginLori felynresogEyjafjallajökullTriesteKilimanjaro7971701BangaloreSymudiadau'r platiau69 (safle rhyw)GwyddoniaethCasino1573RwsiaAsiaPeiriant WaybackSant PadrigCytundeb Saint-GermainGwneud comandoY FenniPenny Ann EarlyBrasil🡆 More