Prifddinas talaith Tamil Nadu, yn ne-ddwyrain India, yw Chennai (hen enw: Madras), sy'n ganolfan weinyddol Rhanbarth Chennai.
Er mai'r enw Tamil Chennai yw'r enw swyddogol heddiw mae llawer o bobl yn y ddinas ac yn India ei hun yn dal i ddefnyddio'r hen enw adnabyddus, Madras. Ei phoblogaeth yw tua 6 miliwn (1999).
Math | dinas, dinas fawr, prifddinas y dalaith, business cluster |
---|---|
Poblogaeth | 6,599,000 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | M. K. Stalin |
Cylchfa amser | UTC+05:30 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Tamileg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Chennai district |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 426,830,040 m² |
Uwch y môr | 6 metr |
Cyfesurynnau | 13.0825°N 80.275°E |
Cod post | 600... |
Pennaeth y Llywodraeth | M. K. Stalin |
Mae Madras yn ddinas a phorth prysur ar Arfordir Coromandel ar Fae Bengal. Cafodd ei sefydlu yn 1639 gan Gwmni Prydeinig Dwyrain India ar dir a roddwyd gan Raja Chandragiri, yr olaf o reolwyr Vijayanagar Hampi. Tyfodd y ddinas o gwmpas Caer St Siôr sydd bellach yn gartref i swyddfeydd y llywodraeth daleithiol.
Sefydlwyd Prifysgol Madras yn 1857.
Mae Chennai yn ganolfan masnach a chludiant. Chennai yw prif ganolfan adeiladu ceir India; fe'i gelwir weithiau "Detroit India" o'r herwydd. Dim ond ychydig o atyniadau hanesyddol sydd yn y ddinas ond mae ganddi ddiwylliant bywiog a diddorol.
Un o ganolfannau busnes pwysicaf Chennai yw Parry's Corner, pencadlys cwmni a sefydlwyd gan y Cymro Thomas Parry ar ddiwedd y 18g.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Chennai, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.