Camel

Camelus bactrianus Camelus dromedarius Camelus gigas (ffosil) Camelus hesternus (ffosil) Camelus sivalensis (ffosil)

Camelod
Camel
Dromedari (Camelus dromedarius)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Artiodactyla
Teulu: Camelidae
Genws: Camelus
Linnaeus, 1758
Rhywogaethau

Carnolyn mawr sy'n cnoi ei gil, a chanddo goesau main, hir, gyda chrwb neu ddau ar ei gefn yw'r camel. Mae’r camel wedi’i ymaddasu’n arbennig i fyw mewn diffeithdiroedd yn ei allu i fyw ar blanhigion dreiniog gwydn, yn ei allu i gadw dŵr ym meinwe’r corff, ac yn ei draed gyda gwadnau llydan trwchus a chaled a charnau bychain ar flaenau bysedd y traed. Gweithreda'r crwb fel storfa braster a gall oroesi am gyfnodau hiri heb fwyd na diod. Mae'r dromedari (camel uncrwb, camel rhedeg) yn byw yn Arabia a gogledd Affrica; mae'r camel deugrwb yn byw yng nghanolbarth Asia.

Mae camelod yn anifeiliaid gwaith a ddefnyddir gan ddyn i gludo teithwyr a chargo. Ceir tair rhywogaeth: y camel dromedari un crwb (sef 94% o boblogaeth camel y byd), y camel Bactria deugrwb (C. bactrianus) ac sy'n 6%. Y drydedd rhywogaeth yw'r camel Bactria gwyllt (C. ferus) sy'n rhywogaeth ar wahân ac sydd bellach mewn perygl difrifol.

Defnyddir y gair camel hefyd yn anffurfiol mewn ystyr ehangach, a'r term mwy cywir yw "camelid", i gynnwys pob un o'r saith rhywogaeth o'r teulu Camelidae : y camelod gwirioneddol (y tair rhywogaeth uchod), ynghyd â chamelidau'r Byd Newydd: y lama, yr alpaca, y guanaco, a'r ficuña. Daw'r gair ei hun o'r Lladin: camelus a'r Groeg (kamēlos) sy'n tarddu o'r Hebraeg, Arabeg neu Phoenician: gāmāl.

Tacsonomeg

Rhywogaethau sy'n bodoli

Mae 3 rhywogaeth yn bodoli:

Delwedd Enw cyffredin Enw gwyddonol Dosbarthiad
Camel  camel Bactrianidd Camelus bactrianus Domestig; Canolbarth Asia, gan gynnwys rhanbarth hanesyddol Bactria.
Camel  Dromedari / camel Arabaidd Camelus dromedarius Domestig; y Dwyrain Canol, Anialwch y Sahara, a De Asia; cyflwyno i Awstralia
Camel  Camel Bactria gwyllt Camelus ferus Ardaloedd anghysbell gogledd-orllewin Tsieina a Mongolia.

Hen ardal yng nghanol Asia oedd 'Bactria'.

Bioleg

Disgwyliad oes camel ar gyfartaledd yw 40 i 50 mlynedd. Mae camel dromedari llawndwf yn sefyll 1.85 metr (6 tr 1 modf) wrth yr ysgwydd a 2.15 metr (7 tr 1 modf) ar frig y crwb. Gall camelod Bactria fod yn droedfedd uwch. Medrant redeg hyd at 65 cilometr yr awr (km/a) sef 40 milltir yr awr am gyfnodau byr a chynnal cyflymder o hyd at 40 km/a (25 mya) am gyfnodau hirach. Mae camelod Bactria yn pwyso 300 i 1,000 cilogram a'r dromedariau 300 i 600 kg. Mae bodiau'r carnau yn darparu gafael ychwanegol ar briddoedd amrywiol.

Mae gan y camel dromedari gwrywaidd organ o'r enw dulla yn ei wddf, sach fawr, chwyddadwy y mae'n ei wthio o'i geg pan fydd yn ceisio denu benywod. Mae'n debyg i dafod hir, chwyddedig, pinc yn hongian allan o ochr ei geg. Mae camelod yn paru ar eu heistedd, gyda'r gwryw yn mowntio o'r tu ôl. Gall y gwryw fel arfer alldaflu dair neu bedair gwaith o fewn un sesiwn paru. Camelidau yw'r unig garnolion i baru ar eu heistedd.

Addasiadau ecolegol ac ymddygiadol

Nid yw camelod yn storio dŵr yn uniongyrchol yn eu crwbau (humps); maent yn gronfeydd o feinwe llawn braster. Pan fydd y meinwe hon yn cael ei fetaboli, mae'n cynhyrchu mwy nag un gram o ddŵr am bob gram o fraster a brosesir. Mae'r metaboleiddio braster hwn, tra'n rhyddhau egni, yn achosi dŵr i anweddu o'r ysgyfaint yn ystod resbiradaeth (gan fod angen ocsigen ar gyfer y broses metabolig): yn gyffredinol, mae gostyngiad net mewn dŵr.

Camel 
Mae cot drwchus y camel yn un o'i nifer o addasiadau sy'n ei gynorthwyo mewn amodau tebyg i anialwch.
Camel 
Camel yn Somalia, sydd â'r boblogaeth camelod fwyaf yn y byd.

Mae gan gamelod gyfres o addasiadau ffisiolegol sy'n caniatáu iddynt oroesi dros gyfnodau hir heb unrhyw ffynhonnell allanol o ddŵr. Gall y camel dromedari yfed mor anaml ag unwaith bob 10 diwrnod hyd yn oed o dan amodau poeth iawn, a gall golli hyd at 30% o fàs ei gorff oherwydd diffyg hylif. Yn wahanol i famaliaid eraill, mae celloedd gwaed coch camelod yn hirgrwn yn hytrach na siâp crwn ac mae hyn yn hwyluso llif y celloedd hyn yn ystod dadhydradu ac yn eu gwneud yn well am wrthsefyll amrywiad osmotig uchel heb rwygo wrth yfed llawer iawn o ddŵr: a 600 kilogram (1,300 lb) gall camel yfed 200 litr (43 galwyn) o ddŵr mewn tri munud. Mae'r Toyota Prius yn dal hyd at 12 galwyn. Felly mae'r camel yn dal cymaint a thri car a hanner o ddŵr. I gymharu rhwng camelod a da byw eraill, dim ond 1.3 litr o hylif mae'r camel yn ei golli bob dydd tra bod gwartheg yn colli 20 i 40 litr y dydd.

Mae camelod yn gallu gwrthsefyll newidiadau yn nhymheredd y corff hefyd. Gall eu tymheredd amrywio o 34 °C (93 °F) ar doriad gwawr hyd ati 40 °C (104 °F) erbyn i'r haul fachlud, cyn iddynt oeri eto dros nos. Mae cynnal tymheredd yr ymennydd o fewn terfynau penodol yn hollbwysig i anifeiliaid; i gynorthwyo hyn, mae gan y camel rwydwaith cymhleth o rydwelïau a gwythiennau yn gorwedd yn agos iawn at ei gilydd sy'n defnyddio llif gwaed gwrthlif i oeri gwaed sy'n llifo i'r ymennydd. Anaml y mae camelod yn chwysu, hyd yn oed pan fydd y tymheredd amgylchynol yn cyrraedd 49 °C (120 °F) . Mae unrhyw chwys sy'n digwydd yn anweddu ar lefel y croen yn hytrach nag ar wyneb eu cnu (neu got); mae gwres anweddiad felly'n dod o wres y corff yn hytrach na gwres amgylchynol. Gall camelod wrthsefyll colli 25% o bwysau eu corff mewn dŵr, tra bod y rhan fwyaf o famaliaid eraill yn gallu gwrthsefyll dim ond tua 12-14% o ddadhydradu cyn i fethiant y galon ddeillio o aflonyddwch yng nghylchrediad y gwaed.

Pan fydd y camel yn anadlu allan, mae anwedd dŵr yn mynd yn sownd yn eu ffroenau ac yn cael ei adamsugno i'r corff fel modd o arbed dŵr. Gall camelod sy'n bwyta llystyfiant gwyrdd lyncu digon o leithder mewn amodau mwynach i gynnal cyflwr hydradol eu cyrff heb fod angen yfed.

Camel 
Lloi camel domestig neu ddof, yn gorwedd mewn 'safle sternal', safle sy'n ei gynorthwyo i golli gwres

Mae côt drwchus y camel yn ei insiwleiddio rhag y gwres dwys a belydrir o'r haul a thwod yr anialwch; rhaid i gamel sydd wedi ei chneifio chwysu 50% yn fwy i osgoi gorboethi. Yn ystod yr haf mae'r gôt yn ysgafnhau o ran lliw, gan adlewyrchu golau yn ogystal â helpu i osgoi llosg haul. Mae coesau hir y camel yn helpu trwy gadw ei gorff ymhellach o'r ddaear a all gynhesu i hyd at 70 °C (158 °F). Mae gan y dromedari bad o feinwe trwchus dros y sternum a elwir yn bedestal . Pan fydd yr anifail yn gorwedd mewn safle sternal, mae'r pedestal yn codi'r corff o'r wyneb poeth ac yn caniatáu i aer oer basio o dan y corff.

Mae gan gegau camelod leinin o ledr trwchus, sy'n eu galluogi i gnoi planhigion anialwch pigog. Mae amrannau hir a blew clust, ynghyd â ffroenau sy'n gallu cau, yn rhwystr yn erbyn tywod. Os bydd tywod yn cael ei osod yn eu llygaid, gallant ei symud drwy ddefnyddio eu trydydd amrant tryloyw. Cerdda camelod a'u traed wedi'u lledu, ac mae hyn yn eu helpu i symud heb suddo i'r tywod.

Mae arennau a pherfeddion y camel yn adamsugno dŵr yn effeithiol iawn gyda rhan medwlaidd aren y camel yn gorchuddio dwywaith cymaint o arwynebedd ag aren buwch. Yn ail, mae gan gorffilod arennol ddiamedr llai, sy'n lleihau'r arwynebedd ar gyfer hidlo. Mae'r ddau brif nodwedd anatomegol hyn yn galluogi'r camel i gadw dŵr a lleiha colli dwqr drwy wrin mewn amodau eithafol. Daw wrin camel allan fel surop trwchus, ac mae ysgarthion camel mor sych fel nad oes angen eu sychu pan fydd y Bedouins yn eu defnyddio i'w losgi mewn coelcerth.

Geneteg

Mae caryoteipiau gwahanol rywogaethau o'r camelidau wedi'u hastudio'n gan lawer o grwpiau, ond ni ddaethpwyd i gytundeb ar enwi cromosomau'r camelidau. Roedd astudiaeth yn 2007 yn didoli cromosomau camel gan adeiladu ar y ffaith bod gan gamelod 37 pâr o gromosomau (2n=74), a chanfuwyd bod y caryoteip yn cynnwys un autosom metacentrig, tri isfetacentrig, a 32 acrocentrig. Cromosom metacentrig bach yw'r Y, tra bod yr X yn gromosom metacentrig mawr.

Camel 
Penglog camel hybrid F1, Amgueddfa Osteoleg, Oklahoma

Mae gan y camel heibrid, sef croesryw rhwng camelod Bactria a dromedari, un crwmp, er bod ganddo bant bychan rhyw 4-12 cm sy'n rhannu'r blaen oddi wrth y cefn. Mae'r hybrid 2.15 metr (7 tr 1 mod) wrth yr ysgwydd a 2.32 m (7 tr 7 mod) wrth y crwb. Mae'n pwyso 650 kg (1,430 pwys) ar gyfartaledd a gall gario tua 400 i 450 kg o bwysau, sy'n fwy nag y gall y dromedari neu'r Bactrian.

Yn ôl data moleciwlaidd, gwahanodd y camel Bactria gwyllt (C. ferus) oddi wrth y camel Bactria dof (C. bactrianus) tua miliwn o flynyddoedd yn ôl. Gwahanodd camelidau'r Byd Newydd a'r Hen Fyd tua 11 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Er gwaethaf hyn, gall y rhywogaethau hyn groesrywio a chynhyrchu epil hyfyw. Mae'r cama yn hybrid rhwng y camel a'r lama sy'n cael ei fridio gan wyddonwyr i weld pa mor agos yw'r berthynas rhwng y rhiant rywogaethau. Casglodd gwyddonwyr semen o gamel trwy wain artiffisial a semenu lama ar ôl ysgogi ofyliad gyda phigiadau gonadotroffin. Mae'r cama hanner ffordd o ran maint rhwng camel a lama ac nid oes ganddo grwbyn. Mae ganddi glustiau rhwng y camel a'r lama, coesau hirach na'r lama, a charnau rhannol ewin. Fel y mul, mae'r cama yn anffrwythlon, er bod gan y ddau riant yr un nifer o gromosomau.

Esblygiad

Roedd y camel cynharaf y gwyddys amdano, o'r enw Protylopus, yn byw yng Ngogledd America 40 i 50 miliwn o flynyddoedd yn ôl (yn ystod yr Eosen). Roedd tua maint cwningen ac yn byw yng nghoetiroedd agored yr hyn sy'n awr yn Dde Dakota. Erbyn 35 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd y Poebrotherium yr un maint â gafr ac roedd ganddo lawer mwy o nodweddion tebyg i gamelod a lamas. Yr oedd y Stenomylus carnog, a gerddai ar flaenau ei draed, hefyd yn bod o gwmpas yr amser hwn, ac esblygodd yr Aepycamelus wddf-hir yn y Miosen.

Ymfudodd cyndad y camel modern, y Paracamelus, i Ewrasia o Ogledd America trwy'r Beringia yn ystod y Miosen hwyr, rhwng 7.5 a 6.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Yn ystod y Pleistosen, tua 3 i 1 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ymledodd Camelidae Gogledd America i Dde America fel rhan o Gyfnewidfa Fawr America trwy Isthmws Panama a oedd newydd ei ffurfio, lle wnaethant esblygu'n guanacos ac anifeiliaid cysylltiedig. Parhaodd poblogaethau o Paracamelus i fodoli yn Arctig Gogledd America hyd at y Pleistosen Diweddar. Amcangyfrifir bod y creadur yn sefyll tua 2.7 metr (9 troedfedd) o uchder. Gwahanodd camel Bactria oddi wrth y dromedari tua miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn ôl y cofnod ffosil.

Y camel olaf a oedd yn frodorol i Ogledd America oedd y Camelops hesternus, a ddiflannodd ynghyd â cheffylau, eirth wyneb-byr, mamothiaid a mastodoniaid, slothiaid daear, cathod ysgithrog, a llawer o fegafawna eraill, yn cyd-daro ag ymfudiad bodau dynol o Asia ar ddiwedd y cyfnod Pleistosen, tua 15-11,000 o flynyddoedd yn ôl.

Dofi

Camel 
Camel cerfiedig o Frenhinllin Tang yn cario cyflenwadau ar ei gefn

Fel ceffylau, tarddodd y camel yng Ngogledd America ac yn y pen draw ymledodd ar draws Beringia i Asia. Fe wnaethon nhw oroesi yn yr Hen Fyd, ac yn y diwedd fe'u dofwyd gan fodau dynol a'u lledaenu'n fyd-eang. Ynghyd â llawer o fegafauna eraill yng Ngogledd America, cafodd y camelod gwyllt gwreiddiol eu dileu yn ystod lledaeniad pobloedd brodorol cyntaf America o Asia i Ogledd America, 10 i 12,000 o flynyddoedd yn ôl; er nad yw ffosilau erioed wedi'u cysylltu â thystiolaeth bendant o hela.

Mae'r rhan fwyaf o gamelod sydd wedi goroesi heddiw wedi eu dofi. Er bod poblogaethau gwyllt yn Awstralia, India a Kazakhstan, dim ond ym mhoblogaeth camelod Bactria gwyllt anialwch Gobi y mae camelod gwyllt yn goroesi.

Hanes

Ceir cryn ddadlau pa bryd y dofwyd y camel. Mae'n bosibl bod y dromedariaid wedi eu dofi am y troi cyntaf yn ne Arabia tua 3,000 CC neu mor hwyr â 1,000 CC, a chamelod Bactria yng nghanol Asia tua 2,500 CC, fel yn Shahr-e Sukhteh, Iran.

Mae gwaith Martin Heide yn 2010 ar ddofi’r camel yn dod i’r casgliad fod bodau dynol wedi dofi camel Bactria erbyn canol y trydydd mileniwm rhywle i’r dwyrain o Fynyddoedd Zagros, gyda’r grefft o ddofi'n ehangu i Fesopotamia. Mae Heide'n awgrymu y gallai sôn am gamelod "yn y naratifau patriarchaidd gyfeirio, o leiaf mewn rhai mannau, at gamel Bactria", tra'n nodi nad yw'r camel yn cael ei grybwyll mewn perthynas â Chanaan.

Darganfu gwaith cloddio archaeolegol diweddar yn Nyffryn Timna gan Lidar Sapir-Hen ac Erez Ben-Yosef yr esgyrn camel dof cynharaf a ddarganfuwyd y tu allan i Benrhyn Arabia, yn dyddio i tua 930 CC.

Tecstilau

Mae pobl yr anialwch a nomadiaid Mongolaidd yn defnyddio blew camel ar gyfer pebyll, yurts, dillad, dillad gwely ac ategolion eraill. Mae gan gamelod flew gwarchod allanol a meddal i lawr mewnol, ac mae'r ffibrau'n cael eu didoli  yn ôl lliw ac oedran yr anifail. Gellir ffeltio'r blew gwarchod i'w defnyddio fel cotiau gwrth-ddŵr ar gyfer bugeiliaid, tra bod y blew meddalach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer nwyddau premiwm. Gellir nyddu'r ffibrau hyn i'w defnyddio mewn gwehyddu neu ei wneud yn edafedd ar gyfer gwau â llaw neu grosio. Cofnodir bod blew camel pur yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dillad gorllewinol o'r 17g ymlaen, ac o'r 19g defnyddiwyd cymysgedd o wlân a blew camel.

Defnyddiau milwrol

Camel 
Carfan camel BSF arbennig, Gorymdaith Diwrnod y Weriniaeth, New Delhi (2004)

Erbyn o leiaf 1,200 CC roedd y cyfrwyau camel cyntaf wedi ymddangos, a gellid marchogaeth camelod Bactria. Gosodwyd y cyfrwy cyntaf ar gefn y camel, a rheolwyd camel Bactria gyda chymorth ffon. Fodd bynnag, rhwng 500 a 100 CC, daeth camelod Bactria i ddefnydd milwrol. Rhoddwyd cyfrwyau newydd, a oedd yn galed ond wedi'u plygu, dros y twmpathau gan rannu pwysau'r marchog dros yr anifail. Yn y 7g CC datblygodd y cyfrwy milwrol Arabaidd, gan wella'r cynllun rhyw ychydig.

Mae lluoedd milwrol wedi defnyddio marchfilwyr camel mewn rhyfeloedd ledled Affrica, y Dwyrain Canol, ac o fewn i Lu Diogelwch Ffiniau (BSF) modern India. Digwyddodd y defnydd cyntafa ddogfennwyd o farchfilwyr camel ym Mrwydr Qarqar yn 853 CC. Mae byddinoedd hefyd wedi defnyddio camelod fel anifeiliaid cludo nwyddau yn lle ceffylau a mulod.

Cig

Camel 
Dysgl o gig camel a reis ar fwrdd bwyd yn Somali

Mae'r camel yn darparu bwyd ar ffurf cig a llaeth. Mae tua 3.3 miliwn o gamelod a chamelidau'n cael eu lladd yn flynyddol am eu cig ledled y byd. Gall un camel ddarparu swm sylweddol o gig ee

gall carcas y dromedari gwrywaidd bwyso 300-4-- kg, tra bod carcas camel Bactria gwrywaidd yn gallu pwyso hyd at 650 kg. Mae'r brisged, yr asennau a'r ystlys ymhlith y rhannau gorau, ac mae'r crwb yn cael ei ystyried yn ddanteithfwyd. Mae'r cwb yn cynnwys braster gwyn y gellir ei ddefnyddio i wneud y khli (cig wedi'i gadw) o gig dafad, cig eidion neu gamel. Ar y llaw arall, mae llaeth camel a chig yn gyfoethog mewn protein, fitaminau, glycogen, a maetholion eraill sy'n hanfodol yn neiet pobl. O gyfansoddiad cemegol i ansawdd cig, y camel dromedary yw'r brîd a ffafrir ar gyfer cynhyrchu cig. Dywedir bod cig camel yn blasu fel cig eidion bras, ond gall camelod hŷn brofi'n wydn iawn, er bod cig camel yn dod yn fwy tyner po fwyaf y caiff ei goginio. Mae cigyddion camel arbenigol yn darparu toriadau arbenigol, gyda'r crwb yn cael ei ystyried fel y mwyaf poblogaidd.


Darllen pellach

  • Gilchrist, W. (1851). A Practical Treatise on the Treatment of the Diseases of the Elephant, Camel & Horned Cattle: with instructions for improving their efficiency; also, a description of the medicines used in the treatment of their diseases; and a general outline of their anatomy. Calcutta, India: Military Orphan Press.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol


Tags:

Camel TacsonomegCamel BiolegCamel DofiCamel Darllen pellachCamel CyfeiriadauCamel Dolenni allanolCamel

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Cascading Style SheetsScarlett JohanssonFylfaPsychomaniaCeredigionY Chwyldro Diwydiannol yng NghymruGetxoDirty Mary, Crazy LarryCodiadRichard Wyn JonesArbeite Hart – Spiele HartLeigh Richmond RooseBetsi CadwaladrTylluanLast Hitman – 24 Stunden in der HölleElin M. JonesSiot dwadWici CofiMapGwladoliAsiaModelVin Diesel31 HydrefCopenhagenAnturiaethau Syr Wynff a PlwmsanClewerAmgylcheddCellbilenCefin RobertsThe Witches of BreastwickSafle cenhadolOwen Morgan EdwardsAnna MarekThe FatherChwarel y RhosyddCarcharor rhyfelTrais rhywiolIago II & VII, brenin Lloegr a'r AlbanAlldafliad benywEconomi Gogledd IwerddonTamilegAfter EarthMarco Polo - La Storia Mai RaccontataArbrawfSt Petersburg2012PornograffiRwsiaDenmarcRSSIwan LlwydCymryEva StrautmannAnwsHeledd CynwalParth cyhoeddusAffricaCymdeithas Ddysgedig CymruSimon BowerPenelope LivelyBlaengroenRhyw tra'n sefyllBadmintonCyngres yr Undebau Llafur🡆 More