Llinyn DNA a geir yng nghnewyllyn y gell yw cromosom.
Mae'n cynnwys bron y cyfan o gôd genetig organeb byw. Nid yw fel arefr i'w ganfod ar ei ben ei hun; yn hytrach fe'i ceir wedi lapio ei hun o gwmpas y 'niwcleosôm', sef casglaid o brotinau, ac sy'n cynnwys histonau. Yn ystod mitosis (rhaniad cell) mae'n bosib gweld cromosomau gyda chymorth meicroscop.
Yn y cromosom dynol ceir 23 pâr o gromosomau, cyfanswm 46 cromosom. Mewn gametau (sbermau a ŵyau) dynol mae 23 cromosomau.
O'r Groeg y daw'r gair "cromosom" (chromosome): χρῶμα (chroma, "lliw") a σῶμα (soma, "corff").
Mae'n ddigon hawdd staenio chromatin a chromosomau. Drwy wneud hyn, daeth Virchow a Bütschli i fod ymhlith y gwyddonwyr cyntaf i adnabod y strwythur iconic a adnabyddwn heddiw fel y cromosom. Ond Heinrich Wilhelm Gottfried von Waldeyer-Hartz, a fathodd y gair, gan gyfeirio at "cromatin" wrth wneud hynny, gair a oedd wedi'i fathu gan Walther Flemming ychydig cyn hynny.
Mewn cyfres o arbrofion a gychwynwyd yng nghanol y 1880au, dangosodd Theodor Boveri mai'r cromoson yw fector etifeddeg. Dangosodd ddau egwyddor: dilyniant cromosomau a'u hunigolrwydd; roedd yr ail o'r rhain yn gysyniad cwbwl newydd. Awgrymodd Wilhelm Roux fod y cromosom yn cario llwyth genetig, gwahanol ac ymchwiliodd i mewn i'r cysyniad hwn, a'i brofi. Ychwanegodd at ei ddarganfyddiad y wybodaeth a oedd newydd gael ei ailddarganfod, sef gwaith Gregor Mendel, a chyhoeddodd fod cysylltiad agos rhwng rheolau etifeddeg ac ymddygiad y cromosom.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cromosom, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.