Bod dynol gwrywaidd aeddfed yw dyn (mewn cyferbyniaeth â dynes) ac mae'n cyfeirio at yr oedolyn yn unig; y ffurf ifanc yw 'bachgen'.
Mae'r gair hefyd yn cynnwys merched ar adegau e.e.'Pa beth yw dyn i ti i'w gofio?' (Beibl) lle cyfeirir at y ddynoliaeth gyfan, ac mae'n perthyn i'r genws Homo.
Fel y rhan fwyaf o famaliaid, mae genome dyn yn etifeddu Cromosom X gan ei fam ac Y gan ei dad. Mae gan y ffetws gwrywaidd hefyd mwy o androgen a llai o estrogen na ffetws benyw. Y gwahaniaeth hwn sy'n gyfrifol am y gwahaniaethau ffisiolegol rhwng dyn a dynes. Hyd at y cyfnod glasoed, ychydig o wahaniaeth sydd rhwng y ddau ryw, ond yna, gyda'r hormonau yn ysgogi rhagor o androgen, mae'r gwahaniaeth rhwng nodweddion rhywiol y ddau ryw yn cael eu hamlygu.
Yn wreiddiol prif ystyr y gair dyn yn Gymraeg oedd "person" neu "fod dynol". Yn ogystal roedd yn air a ddefnyddid yn aml gan y cywyddwyr i gyfeirio at ferched, ac yn enwedig at ferched ifainc (ceir nifer o enghreifftiau o ddisgrifiadau fel dyn deg yng ngwaith beirdd fel Dafydd ap Gwilym, er enghraifft, sy'n golygu "merch deg"). Gallai olygu "gwas" hefyd. Mewn cyferbyniaeth, gŵr oedd y gair arferol ar gyfer dyn mewn oed (gyda "rhyfelwr" ymhlyg yn yr ystyr) a mab am ddyn ifanc (unwaith eto gyda "rhyfelwr" ymhlyg yn yr ystyr). Dim ond yn raddol y daeth y gair i olygu 'dyn' yn yr ystyr sy'n gyfarwydd heddiw.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.