Mae'r goes (neu goesau) yn cynnal gweddill y corff rhwng y migwrn a'r glun, ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer symud.
Ar y rhan pellaf o'r goes oddi wrth y corff fe geir rhan arbennig sydd wedi'i addasu ar gyfer y tir mae'n cerdded arno: troed neu garnau. Gellir rhannu'r goes, o ran anatomi yn wahanol rannau megis croth y goes a'r pen-glin.
'Does yna yr un math o anifail gydag un goes, ond mae'n bosibl creu robot ungoes, mae'r coesau, felly'n dod bob yn bâr. Dyma rai enwau:
Ungoes - 1
Deugoes - 2
Trichoes - 3
Pedwar coes - 4
Mae gan yr arthropod: 4, 6, 8, 12 a rhai ohonyn nhw 14 coes. Mae 'na rai efo mwy na hynny: y pry cantroed a'r pry miltroed er enghraifft. Gyda llaw, does gan y ddau bry ola ddim cweit cymaint o goesau â hynny!
Yn y dŵr yr esblygodd y coesau'n gyntaf, fel ffins, mae'n debyg, gan addasu wedyn ar gyfer y tir. Mae'n bosib mai'r cyntaf i wneud hyn oedd cregin, pryfaid, pryfaid cop ayb.
Mae llawer o bobol yn gweld y goes yn rhan rhywiol o'r corff. Fe'u cuddir fel arfer yn y gorllewin a chyfandir America, ar wahân i lan y môr, lle mae eu dangos yn beth cwbwl dderbyniol. Mae merched, weithiau, yn eu gwisgo â dillad sy'n eu gwneud yn fwy rhywiol fyth: neilons, sgert gwta, esgidiau hirion, y garter a'r sysbendars er enghraifft.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Coes, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.