Rhanbarth hynafol a theyrnas hanesyddol yng Nghanolbarth Asia oedd Bactria (hefyd Bactriana, Bākhtar yn Mherseg, Bhalika yn Arabeg ac ieithoedd Indiaidd, a Ta-Hsia yn Tsieinïeg).
Roedd yn gorwedd i'r dwyrain o'r Môr Aral. Ar ei lletaf roedd Bactria yn cynnwys tiriogaethau presennol y Canolbarth Asia Rwsiaidd, Affganistan a Phacistan, gyda'i chanol rhwng yr Hindu Kush ac afon Amu Darya (yr Oxus hynafol). Ei phrifddinas oedd Bactra neu Balhika (Balkh yn Affganistan heddiw). I'r de-orllewin yr oedd yn ffinio â Phersia tra bod hen deyrnas Gandhara yn gorwedd i'r de-ddwyrain. Mae Bactreg yn iaith Iranaidd yn yr is-deulu Indo-Iranaidd yn y teulu Indo-Ewropeaidd o ieithoedd. Ymhlith disgynyddion y Bactriaid heddiw y mae'r Pashtun a'r Tajikiaid.
Roedd yn dalaith Achaemeniaidd o tua 600 CC hyd ei goncwest gan Alecsander Fawr. Am gyfnod ar ôl hynny bu dan reolaeth y Bersia Seleuciaidd ac wedyn Parthia dan Mithridates I ar ôl cyfnod byr fel teyrnas annibynnol dan Diodotus I. O'r ganrif gyntaf OC meddianwyd Bactria gan nomadiaid o Kushan. Dan eu rheolaeth nhw blodeuai diwylliant unigryw a oedd yn cynnwys elfennau Bwdhydd o Ganolbarth Asia (ardal Turfan, er enghraifft), Iranaidd a Groegaidd-Rufeinig. Hyd tua 600 roedd Bactria yn parhau i fod yn groesffordd ddiwyllianol a masnachol rhwng y Gorllewin a'r Dwyrain.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Bactria, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.