Môr neu lyn yng Nghanolbarth Asia yw Môr Aral (Casacheg: Арал теңізі, Aral tengizi, Rwseg: Аральскοе мοре, Tajik/Perseg: Daryocha-i Khorazm, Llyn Khwarazm).
Mae ei ran ogleddol yng Nghasachstan a'r rhan ddeheuol yn Karakalpakstan, rhanbarth o Wsbecistan. Ystyr yr enw yw "Môr yr Ynysoedd"; ceir dros 1,500 o ynysoedd ynddo,
Math | cynlyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ardal Môr Canoldir |
Sir | Casachstan |
Gwlad | Casachstan, Wsbecistan |
Arwynebedd | 8,303 km² |
Uwch y môr | 31 metr |
Cyfesurynnau | 45°N 60°E |
Dalgylch | 690,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 428 cilometr |
Ers y 1960au mae arwynebedd Môr Aral wedi bod yn lleihau, wedi i gwrs yr afonydd Amu Darya a Syr Darya sy'n llifo iddo gael eu newid gan yr Undeb Sofietaidd ar gyfer dyfrhau cnydau. Erbyn 2004, nid oedd ganddo ond 25% o'i arwynebedd gwreiddiol, ac roedd lefel yr halen yn ei ddyfroedd wedi cynyddu bron bum gwaith, gan ladd llawer o'r anifeiliaid a phlanhigion ynddo. Mae llygredd yn broblem fawr hefyd. Ar hyn o bryd mae ymdrechion yng Nghasachstan i achub rhan ogleddol y llyn.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Môr Aral, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.