Actor o Gymru yw Syr Philip Anthony Hopkins CBE (ganwyd 31 Rhagfyr 1937), sy'n adnabyddus am ymddangos mewn nifer o ffilmiau llwyddiannus.
Mae wedi ennill nifer o wobrau am ei berfformiadau megis Gwobr Academi, Gwobr Golden Globe a Gwobr Emmy ac yn bennaf nodedig am ei ran yn chwarae Hannibal Lecter. Mae'n un o Ymddiriedolwyr Parc Cenedlaethol Eryri ac mae wedi cyfrannu'n ariannol at gadwraeth y Parc.
Anthony Hopkins | |
---|---|
Ganwyd | Philip Anthony Hopkins 31 Rhagfyr 1937 Port Talbot |
Man preswyl | Malibu, Califfornia |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, cyfansoddwr, perfformiwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, actor, arlunydd |
Taldra | 174 centimetr |
Priod | Stella Arroyave, Petronella Barker, Jennifer Lynton |
Plant | Abigail Hopkins |
Gwobr/au | Gwobr Donostia, Gwobr Cymdeithas Academi BAFTA, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr Golden Globe Cecil B. DeMille, Gwobr David di Donatello am yr Actor Estron Gorau, Gwobr y Cylch Beirniaid Ffilm i'r Actor Gorau, Kansas City Film Critics Circle Award for Best Actor, Gwobr Deledu yr Academi Brydeinig am Actor Gorau, Gwobr Bwrdd Cenedlaethol Adolygiadau Ffilm am yr Actor Gorau, Gwobr y 'New York Film Critics' am yr Actor Gorau, National Board of Review Award for Best Supporting Actor, Gwobr Saturn am Actor Gorau, Gwobr Beirniaid Ffilm Chicago am yr Actor Gorau, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Los Angeles ar gyfer yr Actor Gorau, Broadcast Film Critics Association Award for Best Supporting Actor, Boston Society of Film Critics Award for Best Supporting Actor, Gwobr Beirniaid Ffilm Cymdeithas y De-ddwyrain am yr Actor Gorau, Actor Gorau Cymdeithas Beirniaid Ffilm Dallas-Fort Worth, Gwobr Drama Desk ar gyfer Actor Eithriadol mewn Drama, Marchog Faglor, Golden Globes, Primetime Emmy Award for Outstanding Lead Actor in a Miniseries or a Movie, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Ffilm Ewropeaidd am Actor Gorau |
llofnod | |
Ganwyd Anthony Hopkins ym Margam, ym Mhort Talbot. Roedd ei dad Richard yn bobydd a pherthynai ei fam, Muriel, o bell i'r bardd Gwyddelig W. B. Yeats. Dywedir ei fod yn siarad Cymraeg. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Ramadeg y Bont-faen. Mynychodd Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd a threuliodd dwy flynedd yn y fyddin, cyn mynychu RADA yn Llundain. Ar ôl degawd ar y llwyfan actiodd yn y ffilm The Lion in Winter a dechreuodd ar yrfa llwyddiannus iawn ym myd ffilmiau.
Priododd deirgwaith ac mae ganddo un ferch, o'r enw Abigail Hopkins. Santa Monica, Califfornia, yw ei gartref presennol, ac mae wedi bod yn ddinesydd Americanaidd ers 12 Ebrill 2000. Mae'n gyn-alcoholig sydd heb yfed ers 1975.
Enillodd Anthony Hopkins ei ail Wobr Academi am yr Actor Gorau yn 2021.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Anthony Hopkins, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.