Bardd a dramodydd Gwyddelig yn ysgrifennu yn Saesneg oedd William Butler Yeats (13 Mehefin 1865 – 28 Ionawr 1939).
Roedd yn un o'r ffigyrau amlycaf yn y Dadeni Llenyddol yn Iwerddon ar droad yr 20g. Ystyrir ef yn un o'r beirdd pwysicaf i ysgrifennu yn Saesneg yn yr 20g. Dyfarnwyd Gwobr Lenyddol Nobel iddo yn 1923.
William Butler Yeats | |
---|---|
Ganwyd | 13 Mehefin 1865 Dumhach Thrá |
Bu farw | 28 Ionawr 1939 Menton, Roquebrune-Cap-Martin |
Dinasyddiaeth | Gwyddel |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, dramodydd, ysgrifennwr, gwleidydd, cyfrinydd, astroleg |
Swydd | Seneddwr Gwyddelig |
Prif ddylanwad | William Blake, Friedrich Nietzsche, Edmund Spenser, Percy Bysshe Shelley, Oscar Wilde, William Morris, Emanuel Swedenborg, Jakob Böhme, Augusta Gregory |
Mudiad | Symbolaeth (celf) |
Tad | John Butler Yeats |
Mam | Susan Pollexfen |
Priod | Georgie Hyde-Lees |
Partner | Maud Gonne, Olivia Shakespear, Margot Ruddock |
Plant | Anne Yeats, Michael Yeats |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Plac Goethe Dinas Frankfurt am Main, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Uwch Ddoethor |
llofnod | |
Ganed Yeats yn Sandymount ger Dulyn, Iwerddon, mab yr arlunydd John Butler Yeats ac yn frawd yr arlunydd Jack B. Yeats. Bu farw ar 28 Ionawr 1939 yn Roquebrune-Cap-Martin ger Nice, Monaco. Claddwyd ef ym mynwent Drumcliff, ger Sligo yn Swydd Sligo.
Er iddo ysgrifennu yn Saesneg roedd gan Yeats ddiddordeb mawr yn y Wyddeleg a llên gwerin ei wlad. Cyhoeddodd Fairy and Folk Tales of the Irish Peasantry (1888) ac Irish Fairy Tales (1892), dwy gyfrol a ystyrir yn glasuron ar y pwnc. Roedd mytholeg, hanes a thraddodiadau Iwerddon yn ysbrydoli llawer o'i gerddi hefyd, a hynny mewn ysbryd gwlatgar. Amlygwyd ei wladgarwch yn fwy uniongyrchol mewn cerddi sy'n ymwneud â'r ymgyrch dros annibyniaeth Iwerddon: un o'r enwocaf o'r cerddi hynny yw Easter 1916 sy'n seiliedig ar ddigwyddiadau Gwrthryfel y Pasg a dienyddio James Connolly, Pádraig Pearse ac eraill gan yr awdurdodau Prydeinig.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article William Butler Yeats, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.