Llên gwerin yw diwylliant materol, cymdeithasol a llafar cymdeithas gyn-ddiwydiannol, yn ôl y diffiniad traddodiadol, er bod gan y gymdeithas fodern ei llên gwerin hwythau hefyd.
Ffordd arall o'i disgrifio fyddai fel diwylliant traddodiadol anysgrifynedig y werin.
Yn nhermau diwylliant materol, mae llên gwerin yn cynnwys pensaernïaeth frodorol, celf a chrefft. Yn gymdeithasol mae'n cynnwys ffurfiau fel gwyliau, dawns a defodau crefyddol (ac eithrio defodau swyddogol yr eglwys ei hun). Yn nhermau'r diwydiant llafar, mae'r term yn cynnwys caneuon, chwedlau o bob math, diharebion a phosau.
Dechreuwyd casglu ac astudio llên gwerin yn y 18g. Un o'r casgliadau cynnar pwysicaf yn Saesneg oedd Reliques of Ancient English Poetry gan yr Esgob Thomas Percy, a oedd hefyd yn cynnwys nifer o draddodiadau ar gân o dde'r Alban. Yn yr Almaen cyhoeddodd y Brodyr Grimm eu casgliad arloesol yn 1812-1814. Yng Nghymru gwelid cynnydd yn niddordeb yr hynafiaethwyr yn nhraddodiadau llafar y wlad yn ystod y 19g; mae'r gyfrol Ystên Sioned yn un o'r casgliadau cynharaf i weld golau dydd mewn print.
Ar gasglwyr Cymreig rhwng 1700 ac 1900, gw. E. Wyn James a Tecwyn Vaughan Jones (gol.), Gwerin Gwlad: Ysgrifau ar Ddiwylliant Gwerin Cymru, Cyfrol 1 (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llên gwerin, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.