Ysgol ddrama yn Bloomsbury, Llundain yw The Royal Academy of Dramatic Art neu RADA, a ystirir yn un o'r ysgolion drama mwyaf mawreddog yn y byd ac yn un o ysgolion drama hynaf Lloegr.
Math | ysgol ddrama |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Camden |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.52181°N 0.13139°W |
Sefydlwydwyd gan | Herbert Beerbohm Tree |
Yn flynyddol, mae RADA yn derbyn 33 o fyfyrwyr newydd i'r cwrs BA mewn Actio. Fodd bynnag, nid oes angen unrhyw ofynion addysgiadol ac mae mynediad yn dibynnu'n llwyr ar addasrwydd a chlyweliad llwyddiannus. Mae RADA hefyd yn dysgu celfyddydau theatraidd technegol trwy gwrs diploma dwy flynedd i raddedigion a phynciau technegol arbenigol trwy gyrsiau bedwar tymor i raddedigion. Dewisir tua 35 o fyfyrwyr ar gyfer y cyrsiau hyn yn flynyddol.
Gweinyddir RADA drwy Goleg y Brenin, Llundain, sy'n rhan o Brifysgol Llundain.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Royal Academy of Dramatic Art, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.