Mae Barbara Jane Horrocks (ganed 18 Ionawr 1964) yn actores, cerddor a chantores Seisnig.
Cafodd ei geni yn Rawtenstall, Swydd Gaerhirfryn. Hyfforddodd yn y Royal Academy of Dramatic Arts gydag Imogen Stubbs a Ralph Fiennes cyn dechrau ar ei gyrfa gyda'r Cwmni Shakespeare Brenhinol. Derbyniodd ganmoliaeth mawr am ei pherfformiad yn y ffilm Life is Sweet (1990) cyn symud ymlaen i'r ddrama The Rise and Fall of Little Voice yn y West End. Yn y cynhyrchiad hwn, canodd Horrocks yr holl ganeuon. Daeth Horrocks yn fwyaf adnabyddus tra'n chwarae rhan Bubble yng nghomedi'r BBC, Absolutely Fabulous.
Jane Horrocks | |
---|---|
Ganwyd | 18 Ionawr 1964 Rawtenstall |
Man preswyl | Twickenham |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor llais, sgriptiwr, canwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor, sgriptiwr ffilm |
Gwobr/au | Gwobr Actores Orau Gŵyl Ffilm Sitges |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Jane Horrocks, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.