Ysgol gerddoriaeth wedi'i lleoli yng Nghaerdydd yw Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, neu'r Coleg Cerdd a Drama fel y'i gelwir fel arfer.
Mae cyn-fyfyrwyr y coleg yn cynnwys Geraint Jarman, Hywel Gwynfryn a Sara Lloyd-Gregory.
Math | conservatoire |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.4856°N 3.1836°W |
Sefydlwyd y Coleg ym 1949 fel Coleg Cerddoriaeth Caerdydd yng Nghastell Caerdydd, ond ers hynny mae wedi symud i adeiladau ar dir y castell ym Mharc Bute ger Prifysgol Caerdydd. Yn ddiweddarach, newidiodd ei enw i Goleg Cerdd a Drama Caerdydd, cyn derbyn y teitl Brenhinol yn Jiwbili Aur y Frenhines yn 2002, y bumed ysgol gerddoriaeth i dderbyn y teitl hwn.
Ers agor y Coleg, rhoddwyd ei raddau gan Brifysgol Cymru ac yn 2004 daeth y Coleg yn rhan o'r brifysgol ffederal. Fodd bynnag, yn 2007, gadawodd y Coleg y Brifysgol a daeth yn sefydliad annibynnol unwaith eto. Bellach rhoddir eu graddau gan Brifysgol De Cymru.
Darpara'r coleg addysg a hyfforddiant yn y celfyddydau creadigol, gydag oddeutu dwy ran o dair o'i 550 o fyfyrwyr yn astudio cyrsiau sy'n ymwneud â cherddoriaeth, gyda'r gweddill yn astudio cyrsiau sy'n ymwneud â drama. Mae'n ysgol gerddoriaeth All-Steinway. Prin yw'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sy'n cael ei chynnig yn y Coleg ar hyn o bryd.
Mae'r Coleg yn cynnig graddau israddedig yn y meysydd canlynol:
Mae'r Coleg yn cynnig graddau ôl-raddedig yn y meysydd canlynol:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.