Awdures a dramodydd a aned yn Rwmania ac a fu'n byw yn Hwngari a Ffrainc oedd Ana Novac (1929 - 31 Mawrth 2010).
Bu'n aelod o Blaid Gomiwnyddol Rwmania am gyfnod a bu farw ym Mharis yn 80 oed.
Ana Novac | |
---|---|
Ganwyd | Zimra Harsányi 29 Mehefin 1929 Oradea, Dej |
Bu farw | 31 Mawrth 2010 Paris, 8fed Bwrdeisdref Paris |
Dinasyddiaeth | Rwmania |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, dramodydd |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol Rwmania |
Priod | Paul Schuster |
Fe'i ganed yn Zimra Harsányi yn Dej yng ngogledd Transylfania, Romania ac fe'i magwyd yn Oradea (Hwngareg: Nagyvárad), hefyd yn Romania.
Aeth Novac i ysgol Iddewig yn Miskolc, Hwngari. Pan gymerodd yr Almaen Natsïaidd reolaeth dros Hwngari ar 12 Mawrth 1944, fe'i hanfonwyd i Auschwitz. Treuliodd amser hefyd yn Kraków-Płaszów a gwersylloedd llai eraill a llwyddodd i sgwennu dyddiadur yn ystod ei hamser yn y gwersylloedd. Cafodd ei rhyddhau pan oedd yn Chrastava yn Tsiecoslofacia (sydd heddiw yn y Weriniaeth Tsiec) ym Mai 1945. Fodd bynnag, ni oroesodd ei rhieni a'i brawd iau. Dychwelodd Novac i Rwmania am gyfnod cyn symud i Berlin yn ystod canol y 1960au, gan ymgartrefu ym Mharis yn ddiweddarach.
Cyhoeddwyd ei dyddiadur fel llyfr a gyfieithwyd i nifer o ieithoedd gan gynnwys Ffrangeg, yr Almaeneg, yr Eidaleg, yr Iseldireg a Hwngareg. Gellir cyfieithu'r teitl i Dyddiau Braf fy Ieuenctid (1997). Cyhoeddodd hefyd nifer o lyfrau a dramâu eraill.
Bu'n aelod o Undeb Ysgrifenwyr Rwmania am rai blynyddoedd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ana Novac, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.