Auschwitz oedd y mwyaf o wersylloedd difa y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd; yma y lladdwyd canran uchel o'r rhai a laddwyd yn yr Holocost.
Roedd rhan ohono hefyd yn wersyll crynhoi. Cymer ei enw o'r dref gyfagos, Oświęcim mewn Pwyleg, Auschwitz mewn Almaeneg. Mae'r dref tua 50 km i'r dwyrain o Kraków a 286 km o Warsaw. Roedd tri prif wersyll: Auschwitz I, y ganolfan weinyddol; Auschwitz II (Birkenau), y Vernichtungslager neu wersyll difa; ac Auschwitz III (Monowitz), gwersyll gwaith. Sefydlwyd Auschwitz I ar 20 Mai, 1940, a dechreuwyd adeiladu Auschwitz II (Birkenau) yn Hydref 1941. Mae rhywfaint o ansicrwydd faint yn union o bobl a laddwyd yn Auschwitz. Tystiodd pennaeth y gwersyll, Rudolf Höss i hyd at 2.5 miliwn farw, ond y farn gyffredinol yn awr yw i rhwng 1.1 miliwn a 1.6 miliwn gael eu lladd. Lladdwyd y mwyafrif yn y siamberi nwy yn Birkenau, gan ddefnyddio nwy Zyklon-B. Mae Auschwitz I ac Auschwitz II wedi eu dynodi fel Safle Treftadaeth y Byd.
Math | gwersyll crynhoi Natsïaidd, amgueddfa, gwersyll difa, ensemble pensaernïol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Oświęcim |
Agoriad swyddogol | 20 Mai 1940 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Nifer a laddwyd | 1,100,000 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Auschwitz-Birkenau State Museum |
Sir | Sir Oświęcim |
Gwlad | Gwlad Pwyl |
Arwynebedd | 192 ha, 191.97 ha |
Cyfesurynnau | 50.0358°N 19.1783°E |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd, immovable monument |
Manylion | |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Auschwitz, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.