Ystyrir Abraham, Hebraeg: אַבְרָהָם, Avraham, Arabeg: ابراهيم Ibrahim, fel ffigwr allweddol gan dair crefydd, Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam, a elwir am hynny yn grefyddau Abrahamig.
Abraham | |
---|---|
Ganwyd | 1813 CC |
Bu farw | 1638 CC |
Man preswyl | Canaan, Mesopotamia |
Galwedigaeth | heusor, sylfaenydd crefydd, proffwyd |
Swydd | proffwyd, patriarch |
Dydd gŵyl | 9 Hydref |
Tad | Terah |
Mam | Amasla |
Priod | Sarah, Hagar, Cetura |
Plant | Ishmael, Isaac, Simran, Jocsan, Medan, Midian, Isbac, Sua, Bakol |
Perthnasau | Sarah |
Ei enw yn wreiddiol oedd Abram (Hebraeg: אַבְרָם, ond newidiodd ei enw i Abraham yn ddiweddarach yn ei fywyd. Roedd yn fab i Terah, ac roedd ganddo frodyr o'r enw Nahor a Haran. Yn ôl Llyfr Genesis, Ganed ef yn Ur y Chaldeaid ym Mesopotamia, ond galwyd ef gan Dduw i wlad Canaan. Symudodd i Haran, yna gyda'i wraig Sarah a'i nai Lot i Ganaan gyda'i dilynwyr. Yn ddiweddarach ymwahanodd Abraham a Lot, gyda Abraham yn symud i Mamre yn Hebron.
Roedd Sarah yn dal yn ddi-blant, felly rhoddodd ei morwyn Hagar yn wraig arall iddo. Ganwyd mab i Hagar ac Abraham, Ishmael, ond yn ddiweddarach gyrrwyd Sarah ac Ishmael i ffwrdd gan Sarah. Yn draddodiadol, Ishmael yw cyndad yr Arabiaid. Yn ei henaint, cafodd Sarah hefyd fab, Isaac, cyndad yr Iddewon yn ôl traddodiad.
Rai blynyddoedd wedyn, cafodd Abraham orchymyn gan Dduw i aberthi Isaac iddo. Paratôdd Abraham i wneud hynny, ond pan oedd ar fin aberthu ei fab, ymddangosodd angel i'w atal a rhoi dafad iddo i'w aberthu yn lle Isaac. Mae gŵyl Islamig Eid ul-Adha yn dathlu'r digwyddiad yma.
Dywedir i Sarah farw pan oedd tua 127 mlwydd oed, a chael ei chladdu yn Ogof y Patriarchiaid gar Hebron. Gyrrodd Abraham ei was Eliezer i Fesopotamia, i chwilio am wraig i Isaac, a dychwelodd gyda Rebecca. Cymerodd Abraham wraig arall, gordderch o'r enw Keturah, a chafodd chwe mab arall, Zimran, Jokshan, Medan, Midian, Ishbak, a Shuah. Bu farw yn 175 oed, a chladdwyd ef gyda Sarah yn Hebron.
Yn y Coran, dywedir mai Ibrahim ac Ishmael a ailsefydlodd ddinas Mecca ar ôl y Dilyw a chodi'r Kaaba yno.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Abraham, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.