Gwlad yng ngogledd-orllewin De America yw Gweriniaeth Colombia neu Colombia (Sbaeneg: República de Colombia, /re'puβ̞lika ð̞e ko'lombja/).
Mae'n ffinio â Feneswela a Brasil i'r dwyrain, Ecwador a Pheriw i'r de, y Cefnfor Iwerydd i'r gogledd (trwy Fôr y Caribî), a Phanama a'r Cefnfor Tawel i'r gorllewin. Colombia yw'r unig wlad yn Ne America gydag arfordiroedd â'r Cefnforoedd Iwerydd a Thawel.
Arwyddair | Freedom and Order |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gweriniaeth, gwladwriaeth seciwlar, gwlad, gwlad OECD |
Enwyd ar ôl | Christopher Columbus |
Prifddinas | Bogotá |
Poblogaeth | 49,065,615 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Himno Nacional de la República de Colombia |
Pennaeth llywodraeth | Gustavo Petro |
Cylchfa amser | UTC−05:00, America/Bogota |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | America Ladin, De America, America Sbaenig, Ibero-America |
Gwlad | Colombia |
Arwynebedd | 1,141,748 ±1 km² |
Uwch y môr | 223 metr |
Yn ffinio gyda | Ecwador, Panama, Periw, Feneswela, Brasil, Nicaragwa |
Cyfesurynnau | 4°N 73.25°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Colombia |
Corff deddfwriaethol | Congress of Colombia |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | President of Colombia |
Pennaeth y wladwriaeth | Gustavo Petro |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | President of Colombia |
Pennaeth y Llywodraeth | Gustavo Petro |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $318,512 million, $343,939 million |
Arian | Colombian peso |
Canran y diwaith | 9.4 canran |
Cyfartaledd plant | 1.897 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.752 |
Colombia yw'r wlad fwyaf ond tri yn Ne America yn nhermau arwynebedd (yn dilyn Brasil, yr Ariannin a Pheriw), a'r mwyaf ond un yn nhermau poblogaeth (yn dilyn Brasil). Mae'r mwyafrif o Golombiaid yn byw yng ngorllewin mynyddig y wlad, lle lleolir y brifddinas Bogotá a'r rhan fwyaf o ddinasoedd eraill. Mae daearyddiaeth amrywiol gan Golombia, o gopaon eiraog yr Andes i wastatiroedd twym, llaith Afon Amazonas.
Am y pedair degawd diwethaf, dioddefa Colombia gwrthdaro arfog ar raddfa fechan sy'n cynnwys mudiadau gwrthryfelwyr herwfilwrol, milisiâu, a masnachu cyffuriau. Dechreuodd y gwrthdaro tua 1964-1966, pan sefydlwyd yr FARC a'r ELN a dechreuont eu hymgyrchoedd gwrthryfelgar herwfilwrol yn erbyn y llywodraethau olynol. Ers etholiad Álvaro Uribe fel Arlywydd Colombia, mae sefyllfa diogelwch y wlad wedi gwella rhywfaint.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Mae'r wlad yn enwog fel un o'r cynhyrchwyr coffi mwyaf yn y byd. Mae tyfu coca yn ddiwydiant traddodiadol hefyd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Colombia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.